Yn gryno
Mae’r cwrs Plymio Lefel Cynnydd yn rhoi mewnweediad eang, ond manwl, i chi ar waith a sgiliau plymer. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi at yrfa fel plymer yn y diwydiant adeiladu.
... Rhai sydd eisiau gyrfa fel plymer
... Rhai sydd eisiau mynd ymlaen i astudio cymhwyser Lefel 3 mewn Plymio
.. Rhai sydd eisiau ennill sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol am blymio
Mae’r cwrs Lefel Cynnydd mewn Astudiaethau Plymio yn cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i safon uchel sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant.
Byddwch yn dysgu sut i ddelio gyda pheipiau sy’n gollwng, a systemau dwr a draenio yn ein gweithdai llawn offer.
Byddwch yn astudio nifer o unedau yn ystod y cwrs, yn cynnwys:
- Egwyddorion gwyddonol ar gyfer plymio domestig, diwydiannol a masnachol
- Prosesau plymio cyffredin
- Systemau dwr oer Systemau dwr poeth domestig Glanweithdra
- Systemau dwr poeth domestig
- Systemau draenio
Cyflwynir y cwrs trwy sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i danategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.
Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol a phrofion ar-lein ac ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 2 mewn Astudiaethau Plymio
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
I gael lle ar y cwrs, byddwch angen City and Guilds Lefel 2 gradd sylfaen mewn Plymio a, naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Gradd C neu uwch.
Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
I gael lle ar y cwrs, byddwch angen City and Guilds Lefel 2 gradd sylfaen mewn Plymio a, naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Gradd C neu uwch. Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Level 2 (Foundation) in Plumbing Studies, Core Units from Construction Level 2 and either GCSE Maths/Numeracy or English/Welsh First Language grade C or above.
Bydd angen i chi brynu Offer Amddiffynnol Personol (PPE) addas a fydd yn costio tua £40.00, yn ogystal â’ch offer ysgrifennu eich hun.