Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu ystod o dechnegau peintio ac addurno lefel sylfaen.
... Ydych yn frwd am beintio ac addurno ... Hoffech hybu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ... Hoffech gael hyfforddiant helaeth o ansawdd uchel
- Iechyd a Diogelwch
- Egwyddorion adeiladu
- Gosod a datgymalu offer mynediad a llwyfannau gwaith
- Paratoi arwynebau ar gyfer addurno
- Taenu systemau paent gyda brwsh a rhole
- Taenu sylfaen a phapurau plaen
- Cynhyrchu caboliadau addurniadol arbenigol
- Uned 110: Galwedigaethau gorffen addurniadol a phaentio diwydiannol
Byddwch yn datblygu’r arbenigedd i weithio’n annibynnol ac yn sefydlu amgyffred cadarn o effeithiau addurniadol sylfaenol. Mae’n cwmpasu’r sgiliau canlynol:
Iechyd a Diogelwch Egwyddorion adeiladu Gosod a datgymalu offer mynediad a llwyfannau gwaith Paratoi arwynebau ar gyfer addurno Taenu systemau paent gyda brwsh a rholer Taenu sylfaen a phapurau plaen Cynhyrchu caboliadau addurniadol arbenigol
Addysgir y cwrs drwy sesiynau ymarferol a chyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i ategu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 1mewn Peintio ac Addurno
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
lefel cynnydd neu gyflogaeth
Er mwyn ymuno â’r cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd E neu uwch arnoch, gan gynnwys Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Bydd angen i chi ymgymryd ag asesiad diwydiant adeiladu er mwyn penderfynu ar y cwrs mwyaf priodol