Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn darparu statws proffesiynol i chi mewn cwnsela, ac mae'n ychwanegu at y sgiliau a'r wybodaeth sydd gennych eisoes, er mwyn ennyn dealltwriaeth well o'r maes, gyda phwyslais ar brofiad gydol y lleoliad.
Cyflwynir y cwrs dros 2 flynedd.
...rywun y mae ei waith o bosibl yn ymwneud a chwnsela, tebyg i nyrsio, dysgu, gwaith cymdeithasol neu waith gwirfoddol, yr heddlu neu'r lluoedd arfog.
Bydd disgwyl eich bod chi wedi trefnu lleoliad gwaith cwnsela ac yn barod i weithio’n glinigol gyda’r cyhoedd mewn rôl cwnsela. Disgwylir i chi ymgysylltu â phob agwedd ar y cwrs ac ymateb i dasgau a thrafodaethau yn yr ystafell ddosbarth yn broffesiynol a heb feirniadaeth. Disgwylir bod ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn therapi personol er mwyn cynnal addasrwydd moesegol.
Astudiaethau pellach ar lefel uwch neu ymarfer preifat fel cwnselydd.
Bydd yn rhaid eich bod chi wedi pasio cymhwyster AIM Lefel 2 a Lefel 3 mewn Cwnsela.
Bydd addasrwydd i astudio yn cael ei ystyried yn ystod y broses gyfweld.
Fel rhan o’r cwrs, bydd angen i chi ymgymryd ag o leiaf 100 o oriau o ymarfer cwnsela dan oruchwyliaeth ymhen y cyfnod o ddwy flynedd. Mae gofyniad ar bob myfyriwr i ymgymryd â goruchwyliaeth glinigol fel rhan o’u lleoliad gwaith; efallai y bydd angen hunan-ariannu hyn yn amodol ar y lleoliad gwaith. Efallai y bydd angen cwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a delir gennych chi, ar gyfer eich lleoliad gwaith.
Darperir rhagor o wybodaeth yn ystod y cam cyfweld.
Telir y ffi o £1115.00 dros 2 flynedd fel a ganlyn:
Blwyddyn 1: Medi 2026 Cofrestru £165.00 Ffioedd dysgu £490.000 Costau i’w talu ym Mlwyddyn 1 (Medi 2026) – £655.00
Blwyddyn 2: Medi 2027 Ffioedd dysgu £460.00 Costau i’w talu ym Mlwyddyn 2 (Medi 2027) – £460