• Rhan Amser
  • Lefel 3

City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Maes Pwnc Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Dyddiad Cychwyn
3 Medi 2026
Hyd
34 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lefel
3
Ffioedd
Am ddim Gall gostyngiadau fod ar gael
£0.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£0.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Nid yn unig y mae hwn yn gam perffaith yn eich gyrfa trin gwallt, ond mae hefyd yn rhoi amrywiaeth o sgiliau hanfodol i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa.

…gweithwyr trin gwallt sydd am wella eu sgiliau a datblygu’n uwch steilydd.

Mae hwn yn gwrs 34 wythnos. Mae Diploma NVQ Lefel 3 City and Guilds mewn Trin Gwallt yn cwmpasu nifer o bynciau gorfodol a dewisol, gydag asesiadau yn cael eu cynnal yn ein salon ar y safle a phrofion amlddewis ar-lein.

Y pynciau gorfodol yw:

  • Darparu gwasanaethau ymgynghori ar drin gwallt
  • Hyrwyddo gwasanaethau ychwanegol neu gynhyrchion i gwsmeriaid
  • Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau
  • Monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel

Gall pynciau dewisol gynnwys:

  • Lliwio gwallt gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau
  • Triniaethau gwallt a chroen y pen
  • Gwasanaethau cywiro lliw
  • Gwasanaethau ymestyniadau gwallt creadigol
  • Steilio a gwisgo gwallt yn greadigol
  • Gwasanaethau ymgynghori arbenigol i gyflyrau gwallt a chroen y pen
  • Gwisgo gwallt hir yn greadigol
  • Datblygu a gwella sgiliau trin gwallt yn greadigol
  • Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes
  • Creu amrywiaeth o effeithiau a bermiwyd
  • Cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo
  • Cefnogi gwella gwasanaeth i gwsmeriaid

Hefyd, mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) a fwriadwyd i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud y gorau o’ch dysgu, eich gwaith a’ch bywyd. Maent yn cynnwys. Cymhwyso Rhif Lefel 2 – bydd y cymhwyster hwn yn eich helpu i wella eich sgiliau rhif, gan gynnwys rhoi dealltwriaeth o ddata rhifiadol i chi, gwneud cyfrifiadau, dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau. Cyfathrebu Lefel 2 – bydd hwn yn eich helpu i wella eich sgiliau cyfathrebu wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) Lefel 1 – fe’i bwriadwyd i wella eich sgiliau TGCh, gan gynnwys canfod, dewis a chyfnewid gwybodaeth a datblygu a chyflwyno gwybodaeth. Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r cwrs yma, gallech symud ymlaen i Lefel 4 mewn Rheolaeth Salon, neu gyrsiau perthnasol tebyg i therapi Harddwch neu Golur Theatrig a’r Cyfryngau.

Lefel 4 mewn Rheolaeth Salon neu gyrsiau cysylltiedig fel Therapi Harddwch neu Colur Theatrig a Chyfryngol.

Er mwyn dilyn y cwrs yma, bydd angen i chi fod yn gyflogedig mewn lleoliad addas.

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £140, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Beauty student in makeup

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NPDI0011AA
Amser Dechrau
10:00
Hyd
34 wythnosau
Amser Gorffen
17:00
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Dydd Iau a Dydd Gwener

Ffioedd: £free

£0.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£0.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Gall gostyngiadau fod ar gael

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy