Yn gryno
Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sgiliau Trydanol sylfaenol yn ogystal â’r wybodaeth i’w hategu. Byddwch yn cael eich goruchwylio wrth i chi ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a seiliedig ar wybodaeth.
..hoffech chi gael cyflwyniad i Osodiadau Trydanol i arwain at gyrsiau uwch
hoffech chi feithrin sgiliau trydanol
...hoffech chi gwrs sy’n hynod ymarferol
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gyflwyniad i'r diwydiant Trydanol sy'n dymuno ymgymryd â chwrs a fydd yn llwybr at astudiaethau pellach yn y maes hwn. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu rhai sgiliau a gwybodaeth graidd, ynghyd â’r cyfle i symud ymlaen i’n cymhwyster Dilyniant mewn Astudiaethau Trydanol Lefel 2. Mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:
- Gwybodaeth, sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn gosodiadau trydanol a phlymio
- Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n rhan o’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw'n newid, neu wedi newid, dros amser;
- Deall y masnachau, y rolau a’r gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Dealltwriaeth o gylch bywyd adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ynghlwm wrth bob cam;
- Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Gwybodaeth o’r technolegau newydd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o ran sut mae’r rhain yn berthnasol i, ac yn bwysig yn, y gweithle a’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Gwybodaeth o, a’r gallu i, gymhwyso’r egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch lles a’r amgylchedd;
- Cyflawnir y cwrs drwy sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy ardderchog a gwersi theori er mwyn ategu’r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod y sesiynau ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig a phrofion ar-lein.
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu a Cymhwyster Sgiliau Adeiladu Lefel 1 a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D neu uwch.
Astudio cymhwyster dilyniant Lefel 2 ar y cwrs hwn yng Ngholeg Gwent, cyflogaeth neu brentisiaeth ar Lefel 3.