Yn gryno
Mae yna lawer o beryglon posibl wrth weithio ar safle, ac mae’r cwrs hwn yn rhoi cyngor ymarferol ar gadw eich hun a’ch cydweithwyr yn ddiogel. Mae’n cwmpasu eich cyfrifoldebau chi fel unigolyn a chyfrifoldebau eich cyflogwr, gan gynnwys beth allech ei wneud os ydych yn meddwl fod iechyd a diogelwch unrhyw un yn cael eu peryglu.
Gweithio yn niwydiant adeiladu a pheirianneg sifil
Dymuno ennill cerdyn Llafurwr CSCS, am fod y cwrs hwn yn cyd-fynd â’r Prawf CITB Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol.
Mae hwn yn gwrs 1 diwrnod sydd wedi’i ddylunio i roi dealltwriaeth i chi am:
- yr angen i osgoi damweiniau
- cyfraith iechyd a diogelwch
- sut mae eich rôl yn rhan o waith rheoli a rheolaeth y safle
- asesiadau risg a datganiadau dull
- gweithio’n ddiogel a gofyn am gyngor
- sut i adrodd am ymarferion annigonol er mwyn atal damwain
Cewch eich asesu ar eich cyfranogiad drwy gydol y cwrs, gan gynnwys arholiad o 25 cwestiwn aml-ddewis.
Mae presenoldeb llawn yn orfodol.
Ar ôl llwyddo i gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n derbyn tystysgrif sy’n ddilys am 5 mlynedd.
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwyliwr Safle (SSSTS)
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS)
Dealltwriaeth dda o Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.