Yn gryno
Mae Systemau Dŵr Poeth Thermol Solar bellach wedi’u mapio’n llawn yn erbyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae cwrs o’r math yn ofyniad ar gyfer y ddogfen Galluedd Technegol Isafswm (MTC) ar gyfer gosodwyr solar a chydnabyddir y dystysgrif gan bob gorff sy’n cynnig llwybrau i’r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS) fel tystiolaeth o hyfforddiant addas.
Bydd y cwrs 3 diwrnod hwn yn galluogi ymgeiswyr i dewis y system solar fwyaf priodol ar gyfer adeilad yn seiliedig ar anghenion y cleient ac i osod a chynnal a chadw unrhyw un o’r systemau cyffredin yn y DU yn ddiogel ac yn effeithlon.
Mae’r cwrs hyfforddiant a’r llawlyfr yn trafod y canlynol:
- Cyflwyniad i wresogi solar
- Gwasanaethu a chynnal a chadw
- Casglwyr solar
- Storio dŵr poeth a phroblemau gosod allweddol
- Paratoi i osod system gwresogi dŵr sola
- Gosod casglwyr solar
- Cynllun plymio a dylunio systemau gwresogi dŵr solar
- Gofynion rheoleiddio a phŵer
- Comisiynu systemau a throsglwyddo i gleient
Fel arfer, mae asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a damcaniaethol.
Mae’r dystysgrif yn bodloni’r gofynion ar gyfer gweithredwyr MCS
Dylai hyfforddeion feddu ar isafswm o
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Plymio neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiad Domestig) neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiad Diwydiannol a Masnachol) neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwasanaethau Technegol Olew neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Level 2/3 in Gas Installation and Maintenance or equivalent earlier certification: or
- A minimum 3 years demonstrable relevant experience
AC os nad yw wedi’i gynnwys yn y cymhwyster uchod:
- Rheoliadau Dŵr / Is-ddeddfau Dŵr
- Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig Heb Fentiau
Nid yw tystysgrifau technegol unigol / Cymwysterau Galwedigaethol (nad ydynt yn seiliedig ar allu) yn dderbyniol
Fel rhan o broses ymgeisio BPEC, gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o gymwysterau blaenorol a dod â llun pasbort gyda chi ar y diwrnod.
Mae tystysgrifau fel arfer yn ddilys am 5 mlynedd.
Bydd y cwrs hwn yn costio £750 yr ymgeisydd.
Cyflwynir y cwrs hwn dros 3 diwrnod.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
… … unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.