Yn gryno
Nod y cwrs hwn yw cynorthwyo plymwyr a pheirianwyr gwresogi sydd eisiau gosod Systemau Storio Dwr Poeth Domestig Wedi eu Hawyru a Heb eu Hwyru i gydymffurfio â'r Safonau a Rheoliadau Adeiladu priodol.
Mae BPEC yn ddarparwr arbenigol o gymwysterau, asesiadau, cyrsiau hyfforddi a deunyddiau a gydnabyddir gan y diwydiant.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
... unrhyw un 19 oed neu'n hŷn sy'n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
… plymwyr a pheirianwyr gwresogi sydd am osod Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig ac arddangos eu cymhwysedd er mwyn naill ai ymuno â Chynllun Personau Cymwys (gan ganiatáu iddynt ardystio gosodiadau eu hunain) neu hysbysu'r adran Rheoli Adeiladu leol cyn dechrau yn ei swydd.
Mae'r cwrs hynod gynhwysfawr hwn yn dechrau gyda hyfforddiant dwys yn y pedwar modiwl, cyn cwblhau tri asesiad, gan gynnwys un asesiad ymarferol. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr lwyddo yn y tri asesiad er mwyn cyflawni'r dystysgrif BPEC mewn Systemau Storio Dwr Poeth Domestig a'r cerdyn cymhwysedd.
Y pedwar modiwl hyfforddi yw:
- Systemau wedi'u Hawyru a heb eu Hawyru a'u hegwyddorion gweithredu
- Dylunio a gosod
- Cynnal a Chadw
- Cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu eraill
Fel arfer, mae asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a damcaniaethol.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster mewn crefft (e.e. NVQ/SVQ Lefel 2 neu 3 mewn Plymio a Gwresogi neu Wresogi Domestig) NEU fod yn gweithio tuag at ennill un NEU feddu ar nifer o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant plymio neu wresogi
Mae tystysgrifau fel arfer yn ddilys am 5 mlynedd. Mae ymgeiswyr yn gymwys i gael eu hailasesiad o fewn 12 mis i ddod i ben. Rhaid cyflwyno tystysgrifau blaenorol i'r ganolfan asesu fel tystiolaeth o feddu ar y cymhwyster cychwynnol.
Os byddwch yn dewis peidio ag ymuno â chynllun Personau Cymwys bydd angen i chi hysbysu'r adran Rheoli Adeiladu lleol.
Os ydych chi’n cwblhau’r cwrs hwn y tu allan i Gyfrif Dysgu Personol, bydd y cwrs yn costio £230 yr ymgeisydd.
Mae'r cwrs yn rhedeg dros 1 ddiwrnod.