Yn gryno
Yn gryno Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer rhai sy'n ceisio ennill gwybodaeth ynghylch deddfwriaeth berthnasol ac agweddau eraill o'r amgylchedd yn y diwydiannau adeiladu, adeiladwaith a pheirianneg sifil. Bydd yn darparu ymgeiswyr gyda dealltwriaeth eang o'r amgylchedd a'r problemau mae safleoedd adeiladu yn eu hwynebu.
. rhai sydd wedi ennill cyfrifoldebau goruchwylio ar y safle, neu a fydd yn gwneud hynny.
rhai sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth ynghylch problemau amgylcheddol o fewn adeiladwaith a pheirianneg sifil.
Mae’r cwrs 1 diwrnod hwn yn cynnwys:
- Amddiffyn yr amgylchedd drwy ddarpariaethau cyfreithiol.
- Amddiffyn yr ecosystem - perthnasoedd ac ymwneud rhwng anifeiliaid, planhigion ac organebau a'u hamgylchedd.
- Systemau a phrosesau rheoli'r amgylchedd er mwyn lliniaru niwed i'r amgylchedd.
- Dulliau o leihau diflastod ac aflonyddu statudol i gymdogion.
- Y traweffaith mae archaeoleg a threftadaeth yn ei gael ar adeiladwaith.
- Rheoli'r defnydd a wneid o ddŵr a lleihau'r effaith mae adeiladwaith yn ei gael ar gyflenwadau dŵr.
- Rheoli mesurau atal systemau dŵr rhag cael eu llygru.
- Adnabod pren o ffynonellau moesol drwy'r weithdrefn ddogfennu, olrhain ac amddiffyn y coed sy'n cael mynediad i'r safle.
- Rheoli llygredd ar safleoedd tir llwyd.
- Gwasgaru a gwaredu gwastraff yn y ffordd gywir.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag y mae wedi cael ei ddatblygu ar gyfer goruchwylwyr adeiladwaith felly dylid rhoi ystyriaeth iddo cyn gwneud cais.
Mae'n bosib y bydd ymgeiswyr yn dymuno cwblhau Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwylio Safle (SSSTS) neu Gynllun Hyfforddi Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS) yn gyntaf.
Mae'n rhaid i fynychwyr fod yn rhugl yn y Saesneg ar lefel goruchwyliwr safle.
Caiff ei ddarparu drwy ystafell ddosbarth rithiol; fodd bynnag gellir trefnu hyfforddiant ar y safle ar gyfer gweithwyr os gwneir cais am hynny.