Yn gryno
Mae’r cwrs yn cynnwys Rheoliadau Cyflenwad Dwr (Ffitiadau Dwr) (Cymru a Lloegr) 1999 ac mae’n bodloni gofynion Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dwr (WRAS) y mae’r mwyafrif o gwmnïau dwr y DU yn aelodau ohono.
Mae BPEC yn ddarparwr arbenigol o gymwysterau, asesiadau, cyrsiau hyfforddi a deunyddiau a gydnabyddir gan y diwydiant.
… unrhyw un y mae angen arno ddealltwriaeth o reoliadau dŵr/is-ddeddfau dŵr. Yn enwedig, y rhai sy’n dymuno dod yn blymwyr/contractwyr cymeradwy.
Mae’r llawlyfr hyfforddiant yn cynnwys 12 modiwl, cyflwyniad a rhestr termau. Mae’r cwrs cynhwysfawr iawn yn dechrau trwy hyfforddiant dwys yn y 12 o fodiwlau, wedi’i ddilyn gan gwblhau’r asesiadau. Nid oes unrhyw elfennau ymarferol – mae’r holl hyfforddiant yn ddamcaniaethol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr lwyddo i basio pob asesiad er mwyn ennill y dystysgrif WRAS/BPEC Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau Dŵr.
Cynhelir yr hyfforddiant a’r asesu yn y ganolfan sydd, fel arfer, yn para am un diwrnod. Fodd bynnag, bydd angen astudio annibynnol cyn mynychu’r sesiwn.
Bydd ennill y dystysgrif hon yn bodloni rhai o ofynion mynediad y meini prawf i ymuno â chynllun personau cymwys e.g. (APHC) lle, efallai y bydd angen cymhwyster cydnabyddedig mewn plymio.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar ychydig o wybodaeth am y diwydiant plymwaith a’r diwydiant dŵr.
Byddai angen dangos tystiolaeth/cadarnhâd fel rhan o’r broses ymgeisio.
Fel rhan o broses ymgeisio BPEC, mae llun pasbort a chymwysterau perthnasol yn ofynnol.
Nid oes gan dystysgrifau Rheoliadau/Is-ddeddfau Dwr ddyddiad dod i ben.
Anogir ymgeiswyr llwyddiannus i ymuno â chynllun cymeradwy ar gyfer plymwyr/contractwyr megis y rhai a reolir gan SNIPEF, APHC, CIPHE, WIAPS, a’r cwmnïau cyfleustodau dwr rhanbarthol. Mae hyn yn eu galluogi nhw i gyflwyno tystysgrif ar gwblhau gwaith i berchennog y cartref a’r cwmni dwr.
Sylwer, efallai y bydd angen cymwysterau eraill sy’n gysylltiedig â’r diwydiant arnoch chi er mwyn ymuno â’r cynlluniau hyn.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o’r cynllun Cyfrif Dysgu Personol. Mae’r cynllun Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim trwy ddysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd)). …