Yn gryno
Mae Tystysgrif Lefel 3 City and Guilds mewn Patisserie a Melysion Cyffredinol wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa ym maes arbenigol patisserie, melysion a gwaith siocled fel cogydd crwst neu ‘patissier’.
...Ydych yn gweithio neu am weithio fel cogydd patisserie yn y sector
...Ydych yn greadigol ac mae gennych lygad am fanylion
...Ydych chi'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd cegin
Mae'r unedau y byddwch yn ymdrin â nhw ar y cwrs hwn yn cynnwys:
- Cynhyrchion toes a chytew
- Cynhyrchu petits fours
- Cynhyrchu cynhyrchion past
- Cynhyrchu pwdinau poethion, oerion ac wedi rhewi
- Cynhyrchu bisgedi, cacen a sbynga
- Cynhyrchu darnau arddangos ac eitemau addurnol
- Dulliau cynhyrchu siocled a thueddiadau byd-eang
- Technegau tymheru siocled
- Gwneud gwahanol fathau o siocled gan gynnwys clôr y moch, bariau siocled a llenwadau
- Technegau brwsio aer
Byddwch yn cael eich asesu drwy:
- Bapurau ateb byr
- Aseiniadau
- Asesiadau ymarferol
Rhaid i chi fod yn greadigol, hunan-ysgogol a gweithgar a meddu ar angerdd am goginio/gweithio mewn amgylchedd cegin
Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.
Byddwch yn gallu symud ymlaen i'r cyrsiau canlynol ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus. Bydd gan rai cyrsiau ofynion mynediad ychwanegol ond bydd y rhain yn cael eu trafod gyda chi pan fyddwch yn barod i ymgeisio:
- Lefel 1 neu 2 mewn Coginio Proffesiynol
- Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, disgwylir i chi brynu gwisg a fydd yn costio rhwng £23.00 a £55.00 a bydd hyn yn cael ei thrafod gyda chi ar eich diwrnod cyntaf.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.