• Rhan Amser
  • Lefel 2

Signature Tystysgrif mewn Iaith Arwyddion Prydain Lefel 2

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Dysgu ac Addysg
Dyddiad Cychwyn
27 Ionawr 2026
Hyd
20 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
2
Ffioedd
£360.00 Gall gostyngiadau fod ar gael
£300.00 Tuition Fees

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£60.00 Other Fees

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni about our payment plans.
Please note, all advertised fees are for one year only, unless otherwise stated in the additional information below.

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i alluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau i gyfathrebu â phobl Fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd bob dydd. Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i gymryd rhan mewn sgyrsiau hirach a mwy amrywiol nag ar Lefel 1. Bydd y cwrs yn datblygu cyfathrebu yn BSL am fywyd go iawn, trefn feunyddiol a phrofiadau dyddiol. Bydd y dysgwr yn gallu delio â'r rhan fwyaf o gyfathrebu rheolaidd a bydd â digon o ddealltwriaeth o ramadeg i ymdopi â rhywfaint o gyfathrebu nad yw mor gyffredin.

Ar gyfer y rhai sy'n dymuno ennill sgiliau iaith ar lefel ganolradd i wella cyfathrebu a phobl Fyddar, pobl sydd yn Fyddar ac sy'n dymuno ennill cymhwyster yn eu mamiaith.

Dyma'r dilyniant delfrydol o astudiaeth Lefel 1 yn BSL.

Mae dysgu Iaith Arwyddion Prydain, fel unrhyw ail iaith arall, angen ymrwymiad ac ymroddiad er mwyn ennill y sgil sy'n ofynnol yn effeithiol. Bydd gofyn i chi astudio'n annibynnol y tu allan i oriau'r ystafell ddosbarth, yn ogystal a fel rhan o grwp mewn ystafell ddosbarth.

Byddwch yn astudio tair uned orfodol o'r cwrs:

Sgiliau Derbyngar BSL

Sgiliau cynhyrchiol BSL

Sgiliau sgwrsio BSL

Rhaid cwblhau'r tair uned er mwyn ennill y cymhwyster. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i addysgu dysgwyr i gyfathrebu a phobl Fyddar yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar amrywiaeth o themau gan gynnwys, Sgwrs Bob Dydd, Bwyta ac Yfed, Gwario a Siopa, a Theithio a gwyliau.

Cewch eich asesu drwy sesiynau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal a thri asesiad ffurfiol ar ddiwedd y cwrs. Bydd gofyn i chi gael sgwrs wedi'i recordio ar fideo, sefyll papur derbyngar amlddewis, a rhoi cyflwyniad drwy ddefnyddio BSL.

Ar ol ei gwblhau, byddwch yn ennill y Dyfarniad 'Signature' Lefel 2 yn Iaith Arwyddion Prydain.

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, bydd gofyn i ddysgwyr fod a gwybodaeth sylfaenol yn BSL cyn dechrau'r cwrs felly mae'n bosib y bydd angen i chi gael cyfweliad mynediad lle gall y tiwtor asesu eich sgiliau BSL.

Ar ol y cwrs hwn, gallech symud ymlaen i'r Wobr 'Signature' Lefel 3 yn Iaith Arwyddion Prydain.

Dysgu ac Addysg

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CPCE2117AB
Amser Dechrau
15:00
Hyd
20 wythnosau
Amser Gorffen
20:00
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Dydd Mawrth

Fees: £360.00

£300.00 Tuition Fees

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£60.00 Other Fees

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Gall gostyngiadau fod ar gael

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy