Yn gryno
Mae cymorth dosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu plant i gyflawni eu potensial llawn - ac os yw gweithio mewn rôl gefnogi yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth ddwfn i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen wrth weithio’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Mae’n cynnwys pob agwedd ar gymorth arbenigol gan gynnwys cynllunio; cyflwyno ac adolygu strategaethau asesu i gefnogi dysgu ochr yn ochr â’r athro/athrawes; cymorth dwyieithog; cymorth anghenion arbennig; datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.
Disgwylir i chi ennill profiad ymarferol mewn rolau sy’n cefnogi dysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn ogystal â cholegau, am 1 diwrnod yr wythnos, fel cyflogai neu fel gwirfoddolwr. Os ydych chi’n astudio’n rhan-amser, mae’n bwysig i chi drefnu eich lleoliad gwaith cyn cofrestru.
...ydych eisiau gweithio gyda phlant neu bobl ifanc mewn sefyllfa ddosbarth
...ydych eisiau bod yn gynorthwyydd dosbarth neu gynorthwyydd cymorth dysgu
Mae’r cwrs yn cydnabod y gwaith cymorth hanfodol a gyflawnir mewn ysgolion a cholegau ac mae wedi’i ddylunio i helpu dilyniant a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion a cholegau. Byddwch chi’n cwblhau 16 o unedau gorfodol, 7 uned wybodaeth yn unig a 9 uned sy’n gyfuniad o wybodaeth ac ymarfer. Caiff rhai eu hasesu yn eich lleoliad gwaith ysgol/coleg a bydd angen i chi lunio aseiniadau ysgrifenedig ar gyfer y mwyafrif o’r unedau.
Caiff pob uned ei hasesu ar wahân trwy ystod o ddulliau asesu.
Mae’r cwrs hwn yn ychwanegu cymorth ar gyfer dilyniant a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion.
Ar y lefel hon dylech fod wedi cwblhau:
4 x TGAU gradd C ac uwch, neu gwrs Cymorth, addysgu a dysgu, neu Gwrs ESOL Lefel 1, neu Lefel 2 CCPLD.
Rhaid i ddysgwyr allu bodloni gofynion y canlyniadau dysgu a meddu ar y sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau'r cwrs. Os nad oes gennych y cymwysterau uchod ond bod gennych brofiad helaeth o weithio ym myd addysg, gallwn drafod eich opsiynau yn ystod y cyfweliad mynediad.
Cynhelir cyfweliad mynediad gydag Arweinwyr Cwrs i egluro hyn ar gyfer Lefel 3 STL i sicrhau eich bod ar y cwrs cywir.
Ar ôl i chi ennill eich lle, bydd gofyniad i chi gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd trwy’r coleg.