Yn gryno
Mae cymorth dosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu plant i gyflawni eu potensial llawn - ac os yw gweithio mewn rôl gefnogi yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
…unrhyw un sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn dosbarth.
…unrhyw un sydd eisiau bod yn gynorthwyydd ystafell ddosbarth neu’n gynorthwyydd cymorth dysgu
Mae’r cwrs yn cydnabod y gwaith cymorth hanfodol a wneir mewn ysgolion a cholegau; ac fe’i cynlluniwyd yn gymorth i ysgogi cynnydd a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion a cholegau. Byddwch yn cwblhau uned drwy gydol y flwyddyn, bydd rhai yn cael eu hasesu yn eich lleoliad ysgol/coleg a'r rhan fwyaf o unedau y byddwch yn eu cynhyrchu aseiniadau ysgrifenedig.
Mae’n datblygu gwybodaeth a fydd yn werthfawr i weithwyr gwirfoddol a gweithwyr sy’n cael eu talu, drwy astudio ystod o unedau sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant mewn ystafell ddosbarth. Caiff bob uned ei hasesu ar wahân drwy nifer o waliau asesu gwahanol.
Ar ôl y cwrs hwn gallech symud ymlaen i Ddyfarniad neu Dystysgrif CACHE Lefel 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion.
Disgwylir i chi ennill profiad ymarferol drwy weithio mewn rolau sy’n cefnogi dysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ogystal â mewn colegau am o leiaf un diwrnod yr wythnos fel cyflogai neu wirfoddolwr.
Os ydych chi’n astudio’n rhan-amser, mae’n bwysig eich bod chi’n trefnu eich lleoliad gwaith cyn cofrestru. Os ydych chi’n astudio’n amser llawn, byddwn ni’n trefnu eich lleoliadau gwaith ar eich rhan.
Ar y lefel hon dylech fod wedi cwblhau:
4 x TGAU gradd D ac uwch, neu gwrs Gofal Lefel 1, neu Gwrs ESOL Lefel 1, neu CCPLD Lefel 2. Rhaid i ddysgwyr allu bodloni gofynion y canlyniadau dysgu a meddu ar y sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau'r cwrs. Os nad oes gennych y cymwysterau uchod ond bod gennych brofiad o fyd addysg, gallwn drafod eich opsiynau yn ystod y cyfweliad mynediad.
Cynhelir cyfweliad mynediad gydag Arweinwyr Cwrs i egluro hyn ar gyfer Lefel 2 STL i sicrhau eich bod ar y cwrs cywir.
Bydd rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol.