• Llawn Amser
  • Lefel 3

CBAC Y Gyfraith UG Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Lefelau A
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn lluosog
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cipolwg eang ond craff i fyd y gyfraith ac astudiaethau cyfreithiol.

...ydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch yn y maes hwn

...hoffech yrfa yn y gyfraith

...ydych eisiau dilyn llwybr y Gyfraith, llwybr dyniaethau neu lwybr Busnes

Y Gyfraith Lefel UG

Mae'r unedau UG yn ymdrin ag astudio systemau Cyfreithiol Cymru a Lloegr a natur y gyfraith, gan ganolbwyntio ar strwythur systemau cyfreithiol Cymru a Lloegr, gan gynnwys eu perthynas â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r modiwlau hefyd yn cynnwys astudio cyfraith camwedd. Mae’r gyfraith camwedd yn gofyn i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o atebolrwydd am esgeulustod a arweiniodd at bobl yn cael eu hanafu. Bydd angen cymhwyso elfennau o’r gyfraith esgeulustod at senarios damcaniaethol.

Bydd myfyrwyr yn dysgu i ystyried ffynonellau cyfreithiol sylfaenol ac eilaidd yn systemau cyfreithiol Cymru a Lloegr a sut mae barnwyr yn defnyddio'r deddfau hynny wrth wneud penderfyniadau. Byddant yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r system cyfiawnder troseddol a'r system cyfiawnder sifil, gan gynnwys personél cyfreithiol perthnasol a chyllid cyfreithiol. Byddant yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o atebolrwydd deiliaid.

Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatrysiadau, gan gynnwys iawndal, lliniaru colled a gwaharddebau.

Y Gyfraith Safon Uwch

Gall y rheiny sy'n llwyddo yn y Gyfraith UG fynd ymlaen i astudio’r Gyfraith ar Lefel A2. Mae'r unedau A2 yn ymdrin ag astudio dau faes arall o'r gyfraith, o blith Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Contract a Chyfraith Droseddol. Trwy gydol y cwrs, gallwch fesur eich cynnydd trwy waith yn y dosbarth, gwaith cartref ac arholiadau ffug. Mae asesiadau yn cynnwys traethodau a chwestiynau problem neu astudiaethau achos.

Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

  • Y Gyfraith Lefel UG
  • Y Gyfraith Safon Uwch

I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd A* -C gan gynnwys isafswm o radd C mewn Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Rhaid cwblhau'r Gyfraith UG yn llwyddiannus cyn mynd ymlaen i Lefel A2.

Os ydych yn bwriadu mynd ymlaen i brifysgol, mae dewis o ystod eang o gyrsiau, yn cynnwys graddau yn y gyfraith, busnes, rheoli, cyfrifeg a gwasanaethau cymdeithasol. Fel arall, mae'r gyfraith yn elfen ddefnyddiol o gwrs dyniaethau cyffredinol.

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd

Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.

 

Tutor and student sharing exam results

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFAS0129A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFAS0129A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EFAS0129A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Infill to fulltime course

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy