En

City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu'r egwyddorion sylfaenol a'r sgiliau ymarferol uwch sydd eu hangen o fewn y diwydiant trin gwallt. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n cael eu cyflogi mewn salon trin gwallt ar hyn o bryd a chynhelir yr holl asesiadau yn y gweithle.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sy'n gweithio/gyflogedig mewn amgylchedd salon trin gwallt â chleientiaid rheolaidd

...y rhai sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt

...unrhyw un sydd yn frwd dros drin gwallt

...gweithwyr diwyd â sgiliau cyfathrebu da.

Cynnwys y cwrs

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn edrych ar unedau fel

  • Ymgynghoriadau â'r cleient
  • Technegau cywiro lliw a sgiliau lliwio uwch
  • Sgiliau torri uwch mewn modd creadigol
  • Cynllunio a chyflwyno gweithgareddau hyrwyddo
  • Trin gwallt hir mewn modd creadigol ar gyfer amrywiaeth o achlysuron
  • Gwallt priodasol
  • Torri gwallt dynion
  • Iechyd a diogelwch
  • Sgiliau Cyflogadwyedd

Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau trin gwallt canolradd ac yn eich helpu chi i ddatblygu technegau mwy creadigol.

Gofynion Mynediad

Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £140, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt Lefel 3?

CFDI0011AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr