En

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Ardystiad lefel-gyswllt yw hwn, sy'n dilysu eich gallu i dderbyn, trawsnewid, storio a gweithredu data gan ddefnyddio gwasanaethau dadansoddeg AWS.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd o ddysgu sy'n hyblyg ac yn gyfleus i gyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...Unrhyw un sy'n 19 oed neu'n hŷn, yn byw yng Nghymru ac sy'n gyflogedig. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

... Peirianwyr data, penseiri data, peirianwyr cwmwl, datblygwyr, gweithwyr proffesiynol DevOps a pheirianwyr Deallusrwydd Busnes sy'n gweithio gydag offer data AWS.

Cynnwys y cwrs

Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfwerth â chyrsiau wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth, ond caiff eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 3 Diwrnod

Drwy gydol y cwrs byddwch yn dysgu sut i:

  • Ddylunio modelau data
  • Adeiladu a chydlynu llifoedd data
    • Derbyn a thrawsnewid data
    • Sicrhau ansawdd data a rheoli cylch bywyd
    • Optimeiddio perfformiad a chost

Gofynion Mynediad

1–2 flynedd o brofiad ymarferol mewn gwasanaethau AWS NEU 2-3 blynedd o brofiad yn y meysydd peirianneg neu bensaernïaeth ddata

Rhaid i chi fod â mynediad at y rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwegamera/meicroffon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad y rhaglen PLA yw darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol o ansawdd uchel i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.

Cyn cofrestru ar gyfer eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu personol â chi i sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr addysg sydd mwyaf addas i chi.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • neilltuo'r amser sydd ei angen i gwblhau'r cwrs
Ble alla i astudio ?

MPLA0193AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.