Yn gryno
Wrth i'r diwydiant electroneg barhau i dyfu ar draws y byd, mae galw uchel am wybodaeth a sgiliau o fewn peirianneg electroneg. Os ydych yn gweithio yn y maes ac eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa, bydd y cwrs Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) rhan-amser hwn yn eich helpu i ddatblygu eich gallu.
... Ydych eisiau gwella eich arbenigedd a'ch rhagolygon ym maes electroneg
... Ydych eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y diwydiant hwn
Mae'r astudio yn gyfuniad o theori (darlithoedd a thiwtorialau) ac ymarfer (gweithdai ymarferol), drwy fodiwlau craidd electroneg, egwyddorion trydanol, rheoli ac offeryniaeth, PLCs a mathemateg.
Bydd prosiect yn ail ran y cwrs yn datblygu eich sgiliau gweithio mewn grwp, a byddwch yn cynhyrchu arteffact sy'n gweithio i'w arddangos yn nigwyddiad arddangos peirianneg.
Darperir y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.
Byddwch yn astudio rhai o’r unedau canlynol:
Blwyddyn 1
- Gwella Busnes
- Storio Ynni
- Electroneg Uwch
Blwyddyn 2
- Cysyniadau Analog a Digidol
- Pwer a Pheiriannau
- Prosiect
Learners will be assessed via assignments, coursework and class tests, as well as preparing and delivering presentations to develop effective communication skills.
Mae angen i chi fod wedi cyflawni HNC mewn. Peirianneg Drydanol i wneud cais am y cwrs hwn.
Gyrfaoedd posib:
Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer gyrfa o fewn electroneg, cyfrifiadureg, peirianneg drydanol, cyfathrebu, neu systemau rheoli a systemau gwreiddio. Mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau ymarferol, y profiad a'r hyder i chi astudio am radd anrhydedd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig.
Fel arfer, byddai'n rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol: Proffil Teilyngdod/Teilyngdod DD Lefel 3 BTEC perthnasol yn Lefel A.
Graddau DE yn Lefel A a gradd C ym Magloriaeth Cymru. Mynediad at AU lle'r ydych wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 o Lwyddiannau a: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd myfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni'r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn eu diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.
Gan fod hyn yn cael ei gyflwyno ar y cyd â Phrifysgol De Cymru (PDC), ar ôl ei gwblhau, gallwch ychwanegu at eich cymhwyster i radd BSc (Anrh) lawn gydag astudiaeth ran-amser ychwanegol.
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi at yrfa o fewn:
- Electroneg
- Peirianneg drydanol
- Cyfathrebu
- Systemau rheoli a systemau ymgorffori
Mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau ymarferol, y profiad a'r hyder i chi astudio gradd anrhydedd mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol.
