En

City & Guilds Dyfarniad mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Ymarfer Asesu Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Hyfforddiant, Asesiad a Sicrhau Ansawdd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Os oes gennych staff sy’n gyfrifol am gynnal ansawdd asesu yn eich sefydliad neu eich canolfan asesu, dyma’r cymhwyster perffaith iddynt. Byddant angen cymorth gweithiwr IQA ychwanegol yn eich sefydliad i’w mentora, a dylent feddu eisoes ar gymhwyster asesydd (e.e. A1/2, D32/33, TAQA).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…pawb sydd mewn rôl sicrhau ansawdd ac sy’n cynorthwyo dau asesydd o leiaf.

Cynnwys y cwrs

Ar y cwrs, bydd y dysgwyr yn astudio cynllunio dilysu mewnol, strategaethau samplu a thechnegau safoni, ac yn mynd i’r afael â phrosesau sicrhau ansawdd. Gan weithio un-i-un gyda gweithwyr proffesiynol profiadol, bydd modd i’r dysgwyr ddatblygu eu prosesau sicrhau ansawdd mewnol eu hunain i weddu i’ch busnes.

  • Uned 1 – Deall Egwyddorion ac Arferion Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol. Bydd yr uned hon yn helpu’r dysgwyr i ddeall yr egwyddorion a’r arferion sy’n perthyn i sicrhau ansawdd mewnol.
  • Uned 2 – Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol. Nod yr uned hon yw asesu perfformiad y dysgwyr o ran sicrhau ansawdd asesu yn eich sefydliad neu eich canolfan asesu.

Gofynion Mynediad

Dylai’r dysgwyr feddu eisoes ar gymhwyster asesydd (e.e. A1/2, D32/33, TAQA).

Ble alla i astudio City & Guilds Dyfarniad mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Ymarfer Asesu Lefel 4?

BCEM0014AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.