Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os hoffech chi wella eich gywbodaeth a’ch profiad ym meysydd celf a dylunio, gan eich galluogi i ddatblygu eich gallu a magu eich hyder cyn symud ymlaen i’r cymhwyster Lefel 3.
Byddwch yn cael profiad o weithio gyda phatrwm arwyneb, seramig, print a ffotograffiaeth, yn ogystal ag astudiaethau gweledol, tecstilau, ac astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol.
... Ydych yn greadigol
... Rydych chi’n dyheu am ddilyn cwrs astudiaethau pellach ar ôl y cwrs hwn.
... Rydych chi’n dymuno dilyn gyrfa ym meysydd celf a dylunio.
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch chi’n gweithio ar eich plen eich hunan ac yn archwilio ystod o brosesau newydd, megis gweithio gyda phatrwm arwyneb, serameg, argraffedig a ffotograffiaeth. Byddwch chi hefyd yn ystyried astudiaethau gweledol, astudiaethau tecstiliau, astudiaethau hanesyddol ac astudiaethau cyd-destun. Bydd cyfleoedd i chi ymdrochi ym meysydd arlunio, gwneud marciau a dod o hyd i ffyrdd o gofnodi, deall a chyfleu’r byd o’ch amgylch chi.
Y pethau sy’n allweddol i’r cwrs hwn yw datrys problemau trwy dasgau hwyl, cymryd risgiau ac archwilio syniadau newydd. Bydd prosiectau sy’n ysgogi ac yn ymestyn yn eich herio chi i feddwl am sut a pham rydych chi’n creu gwaith celf. Bydd trafodaethau gyda’ch tiwtoriaid a’ch cymheiriaid yn y stiwdio a’r llyfrgell yn rhoi cyfle i chi edrych ar waith artistiaid a dylunwyr eraill a fydd, yn ei dro, yn rhoi hyder i chi siarad am eich gwaith eich hun. Cewch ddigon o gymorth o ran dod o hyd i ffyrdd newydd o ymchwilio ac archwilio a bydd hyn oll yn eich helpu chi i benderfynu ar eich lle chi a’r hyn y gallwch chi ei chynnig i’r byd fel arlunydd, dylunydd neu wneuthurwr.
Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn meddu ar y graddau angenrheidiol (gradd C neu uwch) ar hyn o bryd yn derbyn addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai cymhwyster TGAU neu gymhwyster Sgiliau Gweithredol, yn amodol ar eich graddau TGAU blaenorol.
Hefyd, cewch gyfle i gwblhau heriau sgiliau Agored ym meysydd y gymuned, mentergarwch a materion cyfoes. Mae’r heriau yn canolbwyntio ar efelychu senarios bywyd go iawn y mae artistiaid a phobl greadigol yn gweithio arnynt yn aml yn y diwydiant.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs a chaiff eich gwaith ei gymedroli’n allanol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch chi’n ennill:
- Lefel 2 mewn Celf a Dylunio
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 4 cymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Cymraeg neu Saesneg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf, gradd D neu uwch.
Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i ystod o raddau ac amgylchiadau i fyfyrwyr gael eu derbyn ar y cwrs hwn.
Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.
Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr Lefel 2 yn symud ymlaen i Ddiploma UAL Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yn Crosskeys ac yn parhau â'u taith fel arlunwyr a dylunwyr. Bydd eraill sy'n teimlo nad yw dyfodol o fewn y diwydiannau creadigol yn addas iddynt, yn teimlo'n ddigon hyderus i ddod o hyd i waith neu ymgymryd â rhaglen astudio arall, gan wybod bod y sgiliau trosglwyddadwy y maent wedi eu hennill ar y cwrs wedi rhoi'r arfau iddynt roi cynnig ar lwybr newydd.
Bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af Gradd D neu uwch.
Fel rhan o'r cwrs hwn, bydd angen i chi dalu ffioedd stiwdio, prynu llyfrau braslunio, deunyddiau paentio a lluniadu. Efallai y bydd ffioedd teithio ar gyfer ymweliadau a digwyddiadau oriel hefyd yn daladwy trwy gydol y flwyddyn.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.