En

UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol sy'n cynnwys naill ai gradd D neu uwch mewn Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae'r cwrs yn berffaith os ydych eisiau gwella'ch gwybodaeth a'ch profiad mewn celf a dylunio, a datblygu'ch gallu a'ch hyder cyn mynd ymlaen at gymhwyster Lefel 3.

Byddwch yn cael profiad o weithio gyda phatrwm arwyneb, seramig, print a ffotograffiaeth, yn ogystal ag astudiaethau gweledol, tecstilau, ac astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn greadigol
... Ydych eisiau astudio ymhellach ar ôl y cwrs hwn
... Ydych eisiau gyrfa ym maes celf a dylunio

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod y cwrs, byddwch yn creu eich gwaith eich hun ac yn archwilio ystod o brosesau newydd, megis gweithio gyda phatrymau arwyneb, seramig, print, a ffotograffiaeth. Byddwch hefyd yn edrych ar astudiaethau gweledol, tecstilau, astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol. Bydd cyfleoedd i chi ymdrochi eich hun mewn lluniadu, marcio a dod o hyd i ffyrdd o gofnodi, deall a chyfathrebu gyda'r byd o'ch cwmpas.

Yn allweddol i'r cwrs mae datrys problemau drwy dasgau difyr, gan gymryd risgiau ac archwilio syniadau newydd. Bydd prosiectau ysgol a heriol yn eich herio i feddwl am sut a pham yr ydych yn creu gwaith celf. Bydd trafodaethau yn y stiwdio a'r llyfrgell gyda'ch tiwtoriaid a chyfoedion yn rhoi cyfle i chi edrych ar waith arlunwyr a dylunwyr eraill, a fydd yn ei dro yn rhoi hyder i chi siarad am eich gwaith eich hun. Byddwch yn cael digonedd o gymorth wrth ddod o hyd i ffyrdd newydd ar gyfer ymchwilio ac archwilio, y bydd pob un ohonynt yn eich helpu i benderfynu lle'r ydych chi'n ffitio a beth allwch chi ei gynnig i'r byd fel arlunydd, dylunydd neu wneuthurwr.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan greiddiol o'r cwrs. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt y graddau angenrheidiol eto (Gradd C neu uwch) yn derbyn addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Gweithredol, yn dibynnu ar eu graddau TGAU blaenorol.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gwblhau heriau sgiliau Agored yn ymwneud â materion cyfredol, mentergarwch a chymunedol. Mae'r heriau yn canolbwyntio ar ddynwared senarios go iawn y mae artistiaid a gweithwyr creadigol yn aml yn gweithio arnynt yn y diwydiant.

Cewch eich asesu drwy waith cwrs a bydd eich gwaith yn cael ei gymedroli yn allanol. Unwaith y byddwch wedi'i gwblhau, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, mae angen i chi fod ag o leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, gan gynnwys mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol sy'n cynnwys un ai TGAU Gradd D neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf.

Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i amrywiaeth o raddau ac amgylchiadau er mwyn cael dilyn y cwrs hwn.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, gallu i gymell eich hun, gallu creadigol a dyhead i lwyddo.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr Lefel 2 yn symud ymlaen i Ddiploma UAL Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yn Crosskeys ac yn parhau â'u taith fel arlunwyr a dylunwyr. Bydd eraill sy'n teimlo nad yw dyfodol o fewn y diwydiannau creadigol yn addas iddynt, yn teimlo'n ddigon hyderus i ddod o hyd i waith neu ymgymryd â rhaglen astudio arall, gan wybod bod y sgiliau trosglwyddadwy y maent wedi eu hennill ar y cwrs wedi rhoi'r arfau iddynt roi cynnig ar lwybr newydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel rhan o'r cwrs hwn, bydd angen i chi ffioedd astudio, prynu llyfrau braslunio, deunyddiau peintio a lluniadu. Gall ffioedd ar gyfer ymweliadau ag orielau a digwyddiadau fod yn daladwy hefyd drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallent newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 2?

CFBD0063AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr