Yn gryno
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn datblygu’r wybodaeth sylfaenol a’r sgiliau penodol y mae eu hangen i fodloni gofynion diwydiannau peirianneg awyrenegol/mecanyddol modern.
... Ydych eisiau gyrfa mewn peirianneg awyrenegol
 ... Ydych yn weithgar
 ... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn peirianneg
Pa un a ydych yn dymuno hebrwng cyfnod newydd i mewn o safbwynt awyrennau heb griw, datblygu awyrennau jet teithwyr mwyaf effeithlon y byd, neu droi teithiau i’r gofod yn realiti, mae’r dewisiadau gyrfa yn sector awyrofodol cyfnewidiol y DU yn ddigyffelyb.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol yn y Ganolfan Awyrofodol yn Nhrefforest.
Yn ystod Blwyddyn 1, byddwch yn astudio:
Diploma Atodol mewn Peirianneg (60 credyd)
- Iechyd a diogelwch yn y gweithle peirianneg (10 credyd)
 - Egwyddorion mecanyddol a’u defnydd (10 credyd)
 - Mathemateg ar gyfer technegwyr peirianneg (10 credyd)
 - Y defnydd o systemau mecanyddol mewn peirianneg (10 credyd)
 - Theori hedfan (10 credyd)
 - Arferion cynnal a chadw awyrennau (10 credyd)
 
Ynghyd â 30 credyd ychwanegol:
- Deunyddiau a chaledwedd awyrennau (15 credyd)
 - Egwyddorion ac ymarfer gweithdai awyrennau (15 credyd)
 
Yn ystod Blwyddyn 2, byddwch yn astudio:
Diploma Estynedig mewn Peirianneg Awyrenegol (180 credyd)
- Prosiect peirianneg (20 credyd)
 - Egwyddorion gwyddoniaeth fecanyddol awyrennau a’u defnydd (10 credyd)
 - Systemau trydanol awyrennau (10 credyd)
 - Systemau afionig (10 credyd)
 - Systemau gyrru awyrennau (10 credyd)
 - Cyfathrebu ar gyfer technegwyr peirianneg (10 credyd)
 - Egwyddorion gwyddoniaeth ffisegol awyrennau a’u defnydd (10 credyd)
 - Cyfrifiaduron a systemau electronig awyrennau (10 credyd)
 
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs, portffolio ac asesiad ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill:
- Diploma Atodol Lefel 3 mewn Peirianneg (Blwyddyn 1)
 - Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrenegol (Blwyddyn 2)
 - Gweithgareddau Sgiliau
 - Mathemateg a Saesneg (byddwch yn mynychu dosbarthiadau os na chawsoch Radd C neu uwch yn y pynciau hyn)
 - Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
 
I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen fan leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd B ac os oes modd Gwyddoniaeth Gradd B.
Bydd gennych ddiddordeb ysol mewn peirianneg, yn ogystal â brwdfrydedd a chymhelliant i ddatblygu eich sgiliau ymarferol a dadansoddol. Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs, ac mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc a hunangymhelliant hefyd yn ofynnol. Disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
- Astudio Cynnal a Chadw Awyrenegol neu Beirianneg yn y brifysgol
 - Prentisiaeth Uwch
 - Cyflogaeth
 
Beth am ddysgu mwy am yr hyn y gallwch ei wneud nesaf yn y maes peirianneg cyffrous hwn.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Mathemateg ac, yn ddelfrydol, gradd B mewn Gwyddoniaeth.
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol a fydd yn costio oddeutu £40.00.
O 2025, bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn ein canolfan HIVE newydd. Mae'r adeilad gwerth miliynau o bunnoedd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer darpar beirianwyr.