Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â thrin gwallt a therapi harddwch, gan eich caniatáu i ddewis eich llwybr penodol pan fyddwch yn symud ymlaen i'r lefel nesaf.
... ydych chi'n greadigol
... oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwallt a harddwch
... ydych yn ansicr pa gwrs sy'n iawn i chi
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y canlynol:
- Siampw a chyflyru
- Lliw dros dro
- Plethu a steilio gwallt merched
- Gofal croen
- Manicure sylfaenol
- Colur sylfaenol a cholur ffotograffig
- Peintio wynebau
- Celf Ewinedd
Darperir y cwrs drwy:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
- Arddangosiadau colur a siaradwyr gwadd o'r diwydiant
- Gwaith grwp
- Lleoliadau gwaith
- Teithiau ac ymweliadau
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein yn ymdrin â'r wybodaeth greiddiol.
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Lefel 1 mewn Gwallt a Harddwch
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt, Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu Ddiploma Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur (yn dibynnu ar y graddau a gafwyd yn y cwrs cyfun).
Bydd angen isafswm o 3 chymhwyster TGAU (gradd G neu uwch) gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad perthnasol. Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Bydd angen hunan-gymhelliant, bod yn weithiwr caled, meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar a lefel uchel o ymgyflwyniad personol.
Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.
Cod gwisg:
- Rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon mewn salonau
- Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
- Ni ddylid gwisgo estyniadau gwallt a lliw ewinedd
- Dim tlysau na gemwaith - caniateir gwisgo modrwy briodas yn unig
As a condition of your place on this course, you will be expected to purchase the appropriate kit, from our approved supplier, costing approximately £166 subject to review/inflationary price increase.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.