• Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Rhaglen Beirianneg Uwch – Trydanol Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Peirianneg
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae'r Rhaglen Beirianneg Uwch amser llawn hon yn darparu hyfforddiant, profiad gwaith go iawn a'r cyfle i symud ymlaen i brentisiaeth noddedig lawn. Bydd angen i chi hefyd fod yn barod i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith o leiaf 5 wythnos.

... Ydych yn dymuno dilyn gyrfa mewn peirianneg drydanol

… Ydych yn weithgar ac yn dda am ddatrys problemau

... Ydych yn gweithio'n galed ac yn frwdfrydig

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno’n llawn amser dros gyfnod o 34 wythnos am 30 awr yr wythnos ar gampws y coleg. Ceir rhwng 5 wythnos (150 awr) a 12 wythnos o leoliad profiad gwaith. Byddwch yn ymweld â nifer o’r prif gwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig.

Fe fyddwch yn astudio modiwlau gan gynnwys:

  • Uned 1 – Egwyddorion Peirianneg (Uned Ddwbl) (Asesir yn Allanol)
  • Uned 2 – Cyflenwi Prosesau Peirianneg yn Ddiogel fel Tîm (3 Aseiniad)
  • Uned 3 – Dylunio a Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Peirianneg (Uned Ddwbl) (Asesir yn Allanol)
  • Uned 19 – Dyfeisiau a Chylchedau Electronig (3 Aseiniad)

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig, cyflwyniadau, arddangosiadau, portffolios ac arsylwi. Ar ol cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Peirianneg (Trydanol)
  • Lefel 2 PEO (Sefydliad Cyflogwr Proffesiynol) – 6 uned a ddewisir i ategu gofynion penodol y diwydiant
  • Llythrennedd Digidol
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm. Hefyd, mae dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant peirianneg yn ofynnol, gan y bydd y cwrs hwn yn arwain at Brentisiaeth. Disgwylir i bawb gadw at ethos y coleg a bod yn barod i gymryd rhan mewn o leiaf 5 wythnos o leoliad gwaith.

Prentisiaeth neu waith.

5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys:

  • TGAU gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a B mewn Mathemateg, ynghyd a thair gradd C arall yn ddelfrydol Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig

Byddwch yn cael cist offer a fydd yn werth oddeutu £200.000 ar ôl ichi gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun e.e. ffolderi, dalennau rhannu, pennau ysgrifennu, penseli, penseli lliw, cwmpas, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.

Engineering student smiling

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy