Yn gryno
Mae’r cwrs Dilyniant mewn Astudiaethau Trydanol yn rhoi dealltwriaeth eang ond manwl i chi o waith a sgiliau trydanwr. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel Trydanwr yn y diwydiant adeiladu.
... Oes gennych chi ddiddordeb mewn prentisiaeth neu yrfa fel gosodwr trydanol
... Rydych eisoes wedi cyflawni Diploma Lefel 2 (Sylfaen) mewn gwaith trydanol
... Rydych am gael gwybodaeth ymarferol a gwybodaeth theori
Mae’r cwrs Dilyniant mewn Astudiaethau trydanol yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i safon uchel a gydnabyddir gan y diwydiant.
Byddwch yn dysgu sut i osod a phrofi amrywiaeth o gylchedau trydanol yn ein gweithdai helaeth eu hoffer.
Byddwch yn astudio nifer o unedau yn ystod y cwrs, yn cynnwys:
- Gwaith Gosod Trydanol
- Deall Sut mae Gosod Amgaeadau ar gyfer Ceblau Trydanol, Dargludyddion a Systemau Weirio
- Deall Sut mae Gosod a Chysylltu Ceblau, Dargludyddion, Systemau Weirio a Chyfarpar Trydanol
- Deall Sut mae Archwilio a Phrofi Cylchedau Trydanol wedi’u Dad-wefru
- Deall Gwyddoniaeth ac Egwyddorion Trydanol Canolradd
Cyflwynir y cwrs trwy sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i danategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.
Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol a phrofion ar-lein ac ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 2 Astudiaethau Trydanol
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
I ymuno â’r cwrs, bydd arnoch angen Diploma Lefel 2 (Sylfaen) mewn Astudiaethau Trydanol
a
naill ai TGAU Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch
Mae dysgwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn symud ymlaen i Brentisiaeth neu Gyflogaeth ym maes Gosodiadau Trydanol.
I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi gael Diploma Lefel 2 (Sylfaen) mewn Trydaneg ac un ai TGAU Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Radd C Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu uwch
Bydd angen i chi brynu Offer Amddiffynnol Personol (PPE) addas a fydd yn costio tua £40.00, yn ogystal â’ch offer ysgrifennu eich hun.