Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ateb y galw yn y diwydiant ceffylau am unigolion cymwys, wedi eu hyfforddi’n dda.
...Rydych chi'n symud ymlaen o Ddiploma Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau
...Rydych yn symud ymlaen o gwrs Lefel 2 yn y Gwaith
...Mae gennych brofiad perthnasol ac yn dymuno datblygu eich sgiliau
Byddwch yn ymdrin ag unedau mewn
- Marchogaeth ar y gwastad a thros glwydi
- Addysgu
- Sgiliau hwsmonaeth ac iechyd datblygedig
- Gwyddor ceffylau ac atgynhyrchu
- Profiad gwaith a sgiliau allweddo
Mae’r cwrs hefyd yn cynnig y cyfle i baratoi ar gyfer a sefyll arholiadau BHS (Cymdeithas Geffylau Prydain) hyd at lefel Hyfforddwr Cynorthwyol (BHSAI).
Byddwch yn cael budd o’r cyfleusterau ardderchog yn y ganolfan geffylau sy’n ganolfan arholiad BHS cymeradwy hyd at lefel hyfforddwr canolig. Mae’n uned geffylau fach, gyda chyfarpar da, yn cynnwys iard stabl sy’n lletya hyd at 15 o geffylau i chi eu defnyddio ar gyfer eich sesiynau marchogaeth a sesiynau ymarferol. Mae dau arwyneb maint llawn modern ar gyfer pob tywydd, un ohonynt dan do, neidiau sioe, ardal hyfforddi draws gwlad a chaeau pori. Mae’r ganolfan wedi ei staffio gan dîm profiadol cymwys iawn sy’n eich goruchwylio a chefnogi wrth i chi ymgymryd â dyletswyddau iard a phrofiad gwaith. Wrth weithio yn iard y coleg bydd eich dealltwriaeth o ofal ceffylau yn ehangu.
Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig a byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Ceffylau
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
I fynd i mewn i’r cwrs, bydd angen isafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd, Gwyddoniaeth a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda chymwysterau TGAU i gynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd C neu uwch.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb. Parch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan-gymhelliant, ynghyd ag angerdd am astudiaethau ceffylau yw’r rhinweddau hanfodol y disgwyliwn eu gweld yn ein holl ddysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus ac mae disgwyl i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.
Bydd cwblhau’r Diploma Blwyddyn 1 90 Credyd yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig llawn. Oddi yno, mae llwybrau symud ymlaen yn cynnwys Gradd Sylfaen mewn pynciau sy’n gysylltiedig â cheffylau, cymwysterau BHS uwch neu gyflogaeth yn y diwydiant ceffylau.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd, Gwyddoniaeth a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Sylwch nad cwrs ymarferol yn unig yw hwn, mae swm o waith ysgrifenedig wedi ei gynnwys.
Bydd angen chwistrelliad tetanws cyfredol arnoch chi cyn dechrau’r cwrs.
Bydd angen cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer agweddau ymarferol y rhaglen gan gynnwys esgidiau marchogaeth, clôs pen-glin a het farchogaeth i’r safonau diogelwch cyfredol. Bydd angen i chi brynu’r rhain cyn i’r cwrs ddechrau.
Bydd arholiadau BHS yn gost ychwanegol y bydd angen aelodaeth BHS arni hefyd.