En

IMI Diploma mewn Egwyddorion Paent Atgyweirio Damweiniau Cerbydau Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Diploma Lefel 1 mewn Atgyweirio Damweiniau ac Egwyddorion Paent, neu Ddiploma Lefel 1 Cyfwerth

NEU

4 TGAU ar radd D neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth (neu Gymraeg iaith gyntaf)

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn datblygu ymhellach eich gwybodaeth dechnegol a damcaniaethol o’r diwydiant ail-orffen cerbydau...

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes ydych chi wedi cwblhau'r Cwrs Atgyweirio Cerbydau Lefel1
... Ydych chi’n meddu ar brofiad yn y diwydiant ail-orffen cerbydau
... Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau a gwybodaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

  • Mae'r cwrs yn barhad o flwyddyn gyntaf y cwrs cyrff cerbydau ac ail-orffen cerbydau, gan roi sylw manylach ar ail-orffen. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso paentiau 2K a dŵr-seiliedig, haen glir a gwahanol ddeunyddiau sylfaenol. Bydd gofyn i chi wneud mân atgyweiriadau a phaentio paneli plastig. Byddwch hefyd yn gwirio'r holl sgiliau cyfredol sydd eu hangen yn y diwydiant ail-orffen gan ddefnyddio offer a theclynnau o’r radd flaenaf.

    Byddwch yn astudio’r unedau canlynol:

    • Gwybodaeth o iechyd a diogelwch
    • Gwybodaeth o gymorth ar gyfer swyddi
    • Gwybodaeth o offer a theclynnau a ddefnyddir wrth ail-orffen cerbydau
    • Gwybodaeth o gymhwyso llenwyddion a sylfaen
    • Gwybodaeth o weithio â phlastigion
    • Gwybodaeth o baratoi metel ac arwynebau a baentiwyd ymlaen llaw
    • Gwybodaeth o atgyweirio mân wallau ar arwynebau a baentiwyd

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gweithio realistig
  • Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol
  • Aseiniadau

Fe'ch asesir drwy asesiadau ymarferol ac ar-lein a chwestiynau llafar ac ysgrifenedig. Ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch yn ennill:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

  • 4 TGAU ar radd D neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg a Gwyddoniaeth (neu Gymraeg iaith gyntaf); neu
  • Ddiploma lefel 1 addas

Beth sy'n digwydd nesaf?

Lefel 3 mewn Egwyddorion Paent, gwaith yn y diwydiant modurol neu Brentisiaeth mewn Trwsio Cyrff Cerbydau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch angen Cyfarpar Diogelu Personol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio IMI Diploma mewn Egwyddorion Paent Atgyweirio Damweiniau Cerbydau Lefel 2?

NFDI0283AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr