Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn datblygu ymhellach eich gwybodaeth dechnegol a damcaniaethol o’r diwydiant ail-orffen cerbydau...
... Oes ydych chi wedi cwblhau'r Cwrs Atgyweirio Cerbydau Lefel 1
... Ydych chi’n meddu ar brofiad yn y diwydiant ail-orffen cerbydau
... Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau a gwybodaeth
Mae'r cwrs yn barhad o flwyddyn gyntaf y cwrs cyrff cerbydau ac ail-orffen cerbydau, gan roi sylw manylach ar ail-orffen. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso paentiau 2K a dŵr-seiliedig, haen glir a gwahanol ddeunyddiau sylfaenol. Bydd gofyn i chi wneud mân atgyweiriadau a phaentio paneli plastig. Byddwch hefyd yn gwirio'r holl sgiliau cyfredol sydd eu hangen yn y diwydiant ail-orffen gan ddefnyddio offer a theclynnau o’r radd flaenaf.
Byddwch yn astudio’r unedau canlynol:
- Gwybodaeth o iechyd a diogelwch
- Gwybodaeth o gymorth ar gyfer swyddi
- Gwybodaeth o offer a theclynnau a ddefnyddir wrth ail-orffen cerbydau
- Gwybodaeth o gymhwyso llenwyddion a sylfaen
- Gwybodaeth o weithio â phlastigion
- Gwybodaeth o baratoi metel ac arwynebau a baentiwyd ymlaen llaw
- Gwybodaeth o atgyweirio mân wallau ar arwynebau a baentiwyd
Cyflwynir y cwrs hwn trwy gyfuniad o’r canlynol:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau gweithio realistig
- Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol
- Gwaith aseiniad
Fe'ch asesir drwy asesiadau ymarferol ac ar-lein a chwestiynau llafar ac ysgrifenedig. Ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch yn ennill:
- Lefel 2 Atgyweirio Damweiniau – Egwyddorion Paentio
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- 4 TGAU ar radd D neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg a Gwyddoniaeth (neu Gymraeg iaith gyntaf); neu
- Ddiploma lefel 1 addas
Lefel 3 mewn Egwyddorion Paent, gwaith yn y diwydiant modurol neu Brentisiaeth mewn Trwsio Cyrff Cerbydau.
Byddwch angen Cyfarpar Diogelu Personol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun.
NEU
4 TGAU gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth (neu Cymraeg fel iaith gyntaf)
You’ll need Personal Protective Equipment, such as boots, overalls at an approximate cost of £40.00. You’ll also need to supply your own stationery.