En

IMI Diploma Estynedig mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Er mwyn astudio’r cwrs hwn, byddwch angen Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Gradd Teilyngdod, neu lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd, Saesneg a Gwyddoniaeth.

Yn gryno

O fewn y cwrs hwn, ceir cipolwg trylwyr a dynamig ar y dechnoleg gymhleth, y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio sy’n ymwneud â cherbydau modur.

Mae gan y cwrs hwn unedau ychwanegol, o’i gymharu â’r cymhwyster Diploma Lefel 2, i gynorthwyo'r ymgeiswyr hynny sy'n anelu at Addysg Uwch neu Brentisiaethau Lefel Uwch.

Os byddwch yn mynd yn eich blaen i wneud prentisiaeth mewn cerbydau modur, byddwch yn cwblhau’r elfen ddamcaniaethol sydd ei hangen i wneud hynny drwy’r cwrs hwn.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych eisiau astudio ar lefel gradd ar gyfer gyrfaoedd megis Peiriannydd Modurol

... Rydych eisiau dod yn dechnegydd diagnostig/uwch dechnegydd medrus

... Rydych yn gweithio’n galed ac yn datrys problemau’n dda.

... Rydych eisiau cyfuniad o astudio ymarferol a damcaniaethol

... Rydych yn gallu datrys problemau ac mae gennych ddiddordeb brwd mewn cerbydau

...Rydych chi eisiau gweithio i safonau proffesiynol uchel a'u cynnal

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn astudio'r unedau technoleg cerbydau canlynol fel rhan o’ch astudiaethau:

  • Gwaith cynnal a chadw cerbydau arferol
  • Technoleg injan cerbydau ysgafn
  • Systemau trydanol ac electronig cerbydau
  • Technoleg fframiau cerbydau ysgafn
  • Archwiliadau cerbydau
  • Systemau trawsyriant cerbydau ysgafn

Byddwch hefyd yn astudio'r unedau uwch canlynol, sy’n ychwanegol at unedau'r Diploma Lefel 2 uchod:

  • Mathemateg Cerbydau
  • Gwyddoniaeth Cerbydau
  • Electroneg Cerbydau
  • TGCh Cerbydau

Byddwch yn cael eich asesu drwy dasgau ac arsylwadau profi gallu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a phrofion ar-lein.

Drwy gwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

  • Diploma Estynedig mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 2, Sefydliad y Diwydiant Moduron (IMI)
  • Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau (fel rhan o’r Her Tystysgrif Sgiliau)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn astudio’r cwrs hwn, byddwch angen Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Gradd Teilyngdod.

Gallwch hefyd ddilyn y cwrs yn uniongyrchol gyda lleiafswm o 5 TGAU gradd C, neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd, Saesneg a Gwyddoniaeth.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm. Dylech hefyd fod yn awyddus iawn i weithio yn y diwydiant cerbydau modur, cydymffurfio ag ethos y coleg a bod yn barod i wella eich lefel o wybodaeth am bynciau academaidd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Diploma Lefel 3/Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
  • HNC Peirianneg Fodurol
  • Cyflogaeth
  • Prentisiaeth
  • Astudiaeth lefel uwch yn y brifysgol

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio IMI Diploma Estynedig mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2?

CFDI0274AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr