• Llawn Amser
  • Lefel 1

City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Lefel 1

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Moduro
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
1

Yn gryno

Yn y cwrs Lefel 1 hwn, ceir dealltwriaeth sylfaenol o’r diwydiant modurol. Mae’n berffaith ar gyfer dysgwyr sydd eisiau gweithio ym maes gwasanaethu, atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau a cherbydau ysgafn.

Os caiff ei gwblhau’n llwyddiannus, gall arwain at gwrs lefel 2 Diploma mewn Cerbyd Modur neu ddilyn prentisiaeth mewn diwydiant/trwsio a chynnal a chadw.

...Mae gennych ddiddordeb mawr mewn Peirianneg Fodurol

...Hoffech weithio yn y sector Cerbydau Modur

...Hoffech weithio mewn garej neu ddelwriaeth

…Hoffech chi gael profiad ymarferol mewn gweithdy cerbydau

Mae’r cwrs yn cynnwys cyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol.

Byddwch yn dysgu drwy gwblhau trwy gwblhau tasgau gweithdy a gweithgareddau dosbarth sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd realistig yn y gweithle. Byddwch yn astudio unedau gan gynnwys:

Byddwch yn astudio unedau gan gynnwys;

  • Systemau peiriant
  • Iro
  • Tanwydd
  • Ecsôsts
  • Brêcs
  • Llywio
  • Ataliad
  • Trosglwyddiad

Byddwch hefyd yn astudio;

  • Iechyd a Diogelwch
  • Perthnasau Gwaith

Cewch eich asesu drwy:

  • Arholiadau ar-lein
  • Gwaith cwrs
  • Asesiadau ymarferol

Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Diploma Cyntaf Lefel 1 mewn Peirianneg Cerbydau Modur
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth (gweler gwefan Coleg Gwent am fanylion)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (Mae uwchraddio sgiliau Mathemateg a Saesneg i radd C neu uwch yn cael ei integreiddio i’r amserlen ddysgu)

Cwblhau cwrs Lefel Mynediad 3 yn llwyddiannus, neu ddyfarniad Lefel 1 drwy raglen Cerbydau Modur neu Beirianneg.

NEU

4 TGAU - 2 TGAU gradd D (Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol) ac o leiaf 2 TGAU gradd D-G.

Bydd angen i chi fod yn:

  • rhifog a chreadigol a gyda diddordeb amlwg mewn Peirianneg Fodurol
  • gallu cymell eich hun, yn gweithio’n galed, yn brydlon ac ymroddedig

  • Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Cerbydau Modur
  • Diploma Lefel 2 mewn Gosod Cerbydau Cyflym
  • Symud ymlaen at brentisiaeth neu gyflogaeth addas

Cwblhau cwrs Lefel Mynediad 3 yn llwyddiannus, neu ddyfarniad Lefel 1 drwy raglen Cerbydau Modur neu Beirianneg.

4 TGAU - 2 TGAU gradd D (Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol) ac o leiaf 2 TGAU gradd D-G.

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol:

  • hunanreolaeth, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac agwedd gadarnhaol at waith
  • Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunan, h.y. ffolderi, cloriau i rannu pynciau, beiros, pensiliau, pren mesur a Chyfarpar Diogelu Personol (esgidiau trwm ac oferôls)

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFDI0112AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDI0112AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy