En

City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Gradd Teilyngdod mewn Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn a TGAU gradd D neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg

Yn gryno

Caiff y cwrs hwn ei ardystio fel Diploma Technegol a’i fwriad yw bodloni elfen ddamcaniaethol y cwrs Lefel 2 VCQ mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn. Mae’n bodloni gofynion y Fframwaith Prentisiaeth Uwch Cynnal a Chadw a Thrwsio (Cerbydau Ysgafn).

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych wedi cwblhau Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau
... Ydych eisiau cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Gallwch weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm

Beth fyddaf yn ei wneud?

Caiff y rhaglen Lefel 2 ei rhannu’n bump o adrannau technegol, yn cynnwys y pedwar prif faes a ddynodir gan y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a ddatblygwyd gan IMI:

  • Technoleg siasis
  • Technoleg injans
  • Technoleg trawsyrru
  • Technoleg drydanol ac electronig
  • Agweddau cyffredinol e.e. iechyd a diogelwch, agweddau cyfreithiol a gofynion sefydliadol

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng profion ar-lein, aseiniadau, gwaith cwrs, portffolios ac asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

  • 4 TGAU gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf); neu
  • Diploma lefel 1 addas a TGAU gradd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf)

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau
  • Prentisiaeth addas
  • Gwaith yn y diwydiant fel technegydd

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2?

NFDI0035AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr