VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Mae Therapi Harddwch Lefel 3 ar gyfer dysgwyr Lefel 2 sy’n symud ymlaen i’w rhaglen Therapi Harddwch Lefel 3, neu ar gyfer therapyddion sydd eisoes wedi cymhwyso ar Lefel 2, ond heb gwblhau eu cymhwyster Lefel 3 fel rhan o’u hyfforddiant a’u cynnydd ym maes harddwch.
Mae hefyd wedi’i ddylunio ar gyfer therapyddion harddwch sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant harddwch a fyddai’n hoffi uwchsgilio i’n cwricwlwm newydd i gynnig gwasanaethau cyfoes newydd o ran triniaethau yn y gweithle.
Fel rhan o ofynion y cwrs, mae lleoliad gwaith undydd mewn salon neu sba o’ch dewis yn hanfodol er mwyn ennill hyder a phrofiad yn eich triniaethau therapi harddwch. Bydd hyn yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd ac yn rhoi profiad o’r diwydiant i chi.
Mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra ar gyfer y rheini a hoffai symud ymlaen ac arbenigo mewn gofynion spa a Llongau Mordeithio, yn ogystal â salonau harddwch sy’n cynnig triniaethau newydd a chyfoes. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Steiner a sbaon a salonau lleol yn ein hardal leol, lle gallwn gynnig profiad gwaith sy’n rhoi cipolwg ar ragolygon gyrfa i’r dyfodol.
Dyma'r cwrs i chi os...
Rydych chi eisiau symud ymlaen i Therapi Harddwch Lefel 3 , neu os ydych chi wedi gweithio yn y diwydiant ers llawer blynyddoedd ac eisiau gwella ymhellach eich ystod o driniaethau therapi harddwch a gynigir yn eich gweithle.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cynnal:
- Cwyro personol
- Triniaeth drydanol yr wyneb
- Tylino corff dull Sweden
- Therapi cerrig
- Dermablaenio Lefel 4 unwaith y bydd holl agweddau Lefel 3 y cwrs wedi’u cwblhau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Disgwylir i chi fynychu pob sesiwn, gweithio’n galed a chynnal asesiadau ymarferol ar gleient sy’n talu gan fod y salon yn sefydliad salon hyfforddi realistig. Bydd gofyn i chi wneud rhai oriau o leoliad gwaith fel rhan o'ch astudiaethau cwrs sy'n cyd-fynd â'ch cydbwysedd bywyd a gwaith.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau eich rhaglen Lefel 3, mae opsiwn i symud ymlaen i raglen Lefel 4, lle mae posibilrwydd i agor eich busnes eich hun, gwneud cais i weithio ar longau mordeithiau neu chwilio am waith arall yn y sector. Mae gan y coleg lawer o gysylltiadau y gallwn eich cyfeirio atynt ar ôl cwblhau'r cwrs.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid sy’n talu, a dod â’ch cleient eich hun, lle bo angen, i gwblhau asesiadau ymarferol.
Fodd bynnag, os oes apwyntiadau allanol wedi’u trefnu, rhaid i’r cleientiaid hyn gael blaenoriaeth bob amser.
Cod gwisg:
- Gwisg y mae’n rhaid ei gwisgo ar gyfer pob sesiwn ymarferol. Mae hwn yn ofyniad gorfodol
- Rhaid clymu’r gwallt yn daclus yn ôl oddi ar yr wyneb
- Colur dydd
- Dim tyllau
- Ni ellir gwisgo gemwaith heblaw modrwy briodas yn y salon
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu’r cit priodol, gan ein cyflenwr cymeradwy, sy’n costio tua £198 yn amodol ar adolygiad/cynnydd mewn prisiau oherwydd chwyddiant.
Er mwyn adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent a fydd yn cael ei archebu gan ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion am sut i archebu eich gwisg, ynghyd ag opsiynau talu cyflenwyr, gan Bennaeth eich Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Mae’r pris ar gyfer 2024/2025 yn oddeutu £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau oherwydd chwyddiant.
Gallai costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu ac mae’n bosibl y byddant yn newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFDI0445AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr