En

CBAC / City & Guilds Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant: Craidd ac Ymarfer a Theori Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gael cychwyn y cwrs hwn, mae'n rhaid i chi gael o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys  Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu Radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol.

Bydd dysgwyr Lefel 2 angen cwblhau rhaglen CCPLD Lefel 2 yn llwyddiannus, ac arddangos ymrwymiad a chynnydd mewn Sgiliau (Llythrennedd/Rhifedd).

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn yn caniatáu dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddatblygu gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Hoffech weithio ar lefel goruchwylio

... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn gofal plant

... Hoffech symud ymlaen i radd mewn disgyblaeth gysylltiedig.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae hon yn rhaglen am ddwyflynedd, sydd fel arfer yn cynnwys3 diwrnod ar y campws a 2 ddiwrnod mewn lleoliad gwaith.

Byddwch angen cwblhau lleiafswm o 700 awr mewn lleoliad gwaith dros gyfnod o ddwy flynedd, wrth ddilyn elfennau damcaniaethol yn y coleg.

Bydd dysgwyr yn gwneud amrywiaeth o asesiadau yn ystod lleoliadau gwaith, ynghyd ag asesiadau mewnol ac allanol ar gyfer yr elfennau damcaniaethol.

Wedi i chi gwblhau'r cwrs byddwch wedi cyflawni:

  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 Craidd ac Ymarfer Theori
  • L2 CCPLD Craidd
  • Hylendid Bwyd
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig
  • Her Sgiliau CBAC (Uwch)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd disgwyl i chi ymrwymo i astudio am 5 diwrnod, ac mae hynny'n cynnwys dysgu'r elfen wybodaeth o'r cymwysterau yn y coleg, a diwrnodau/blociau lleoliad gwaith ar gyfer yr elfen gymhwystra o'r cymwysterau.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y diwydiant gofal.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallech ystyried dilyn cyrsiau Addysg Uwch mewn meysydd cysylltiedig, neu swyddi fel gweithiwr gofal, gwarchodwr plant, nyrs feithrinfa, cynorthwywyr grwp chwarae, cynorthwywyr meithrinfa, cynorthwywyr creche, gweithiwr gofal plant y tu allan i'r ysgol neu gynorthwyydd Cylch Meithrin.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol cyn dechrau'r cwrs hwn.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC / City & Guilds Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant: Craidd ac Ymarfer a Theori Lefel 3?

EFDI0584AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr