YMCA Diploma mewn Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgaredd Corfforol (Poblogaethau Arbenigol) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon a Ffitrwydd
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£155.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Dydd Llun a Dydd Iau
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
15:00
Hyd
30 wythnos
Gofynion Mynediad
Meddu ar gymhwyster mynediad priodol ar gyfer rolau chwaraeon, ymarfer corff neu ffitrwydd sydd wedi'i fapio i safonau proffesiynol CIMSPA
- hyfforddwr campfa
- hyfforddwr ymarfer corff grŵp craidd
- hyfforddwr personol
- Hyfforddwr gwaith mat Pilates
- cryfder a chyflyru (hyfforddwr)
- Yn gallu cyfathrebu ag unigolion a grwpiau yn effeithiol.
I ennill sgiliau addysgu a hyder datblygedig, argymhellir i ddysgwyr feddu ar o leiaf chwe mis o brofiad o gynllunio a darparu sesiynau ymarfer corff cyn ymgymryd â'r cymhwyster hwn.
Yn gryno
Trwy gwblhau'r cwrs hwn, bydd dysgwyr yn bodloni gofyniadau'r diwydiant i gynllunio a darparu sesiynau a rhaglenni ymarfer corff a gweithgareddau corfforol (o fewn cwmpas eu hymarfer) er mwyn diwallu anghenion oedolion yn y meysydd canlynol: Oedolion Hŷn, Anableddau a Namau, Amenedigol a Menopos.
Dyma'r cwrs i chi os...
Gelwir y cymhwyster hwn yn ‘arbenigedd poblogaethau’. Mae hyn yn golygu ei fod wedi'i gynllunio i gefnogi hyfforddwyr ymarfer corff a ffitrwydd presennol i ehangu cwmpas eu hymarfer i weithio â phoblogaethau arbenigol o oedolion (Cyflyrau iechyd hirdymor, Oedolion Hŷn, Anableddau a Namau, Amenedigol a Menopos).
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd dysgwyr yn mynd dros y cynnwys canlynol:
Cyflyrau Hirdymor
- Rôl gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff mewn atal a rheoli cyflyrau iechyd hirdymor
- Rhaglennu, addasu a darparu ymarfer corff i oedolion sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.
Menopos
- Deall camau'r menopos a’r effeithiau a’r risgiau i iechyd
- y mae hormonau'n dirywio yn eu peri.
- Rhaglennu ac addasu sesiynau a rhaglenni ymarfer corff i fodloni anghenion unigolion ar wahanol gamau o'r menopos (o fewn cwmpas eu hymarfer)
Anabledd a Namau
- Deall pwysigrwydd gweithio'n gynhwysol a'r effaith y mae'n ei chael ar gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
- Adnabod manteision gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff i unigolion sydd ag anableddau a namau.
- Cynllunio ac addasu ymarfer corff a gweithgareddau corfforol i unigolion sydd ag anableddau a namau.
- Profi, asesu a darparu sesiynau ymarfer corff cynhwysol i unigolion sydd ag anableddau a namau.
- Deall egwyddorion diogelu oedolion ac oedolion sy'n agored i niwed.
- Adnabod pwysigrwydd polisïau diogelu mewn sefydliadau a'r effaith y mae deddfau yn ei chael ar y polisïau hyn.
- Adnabod ac ymateb i ddangosyddion posib o gam-drin ac ymarfer gwael. Rheoli risgiau wrth ddiogelu oedolion ac oedolion sy'n agored i niwed o fewn eu rolau eu hunain.
Oedolion Hŷn
- Ennill dealltwriaeth o'r effeithiau o heneiddio yn ogystal ag arferion heneiddio iachus.
- Dod yn gyfarwydd â gwrtharwyddion ymarfer corff mewn oedolion hŷn.
- Deall canllawiau arferion gorau wrth ddarparu gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff i oedolion hŷn.
- Profi ac asesu oedolion hŷn cyn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff.
- Datblygu sgiliau i gynllunio a darparu rhaglenni ymarfer corff sydd wedi’u haddasu i oedolion hŷn.
- Adolygu rhaglenni ymarfer corff a gynlluniwyd ymlaen llaw a'u haddasu yn ôl y gofyn.
Amenedigol
- Deall y newidiadau anatomegol, ffisiolegol a bio-fecanyddol sydd yn digwydd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod ôl-enedigol
- Deall anghenion maethol cyfranogwyr cyn-geni ac ôl-enedigol
- Deall manteision gweithgarwch corfforol ar gyfer cyfranogwyr cyn-geni ac ôl-enedigol
- Deall y llwybr gofal mamolaeth
- Deall cwmpas ymarferion a chanllawiau seiliedig ar dystiolaeth o ran gweithio gyda chyfranogwyr cyn-geni ac ôl-enedigol
- Deall gwrtharwyddion cymharol a diamod i weithgarwch corfforol ar gyfer cyfranogwyr cyn-geni ac ôl-enedigol.
- Cynllunio gweithgareddau a rhaglenni diogel, cynhwysol ac effeithiol ar gyfer cyfranogwyr cyn-geni ac ôl-enedigol.
- Darparu ac adolygu sesiynau ymarfer corff ar gyfer cyfranogwyr cyn-geni ac ôl-enedigol
- Rheoli risgiau mewn sesiynau ymarfer corff cyn-geni ac ôl-enedigol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cynhelir y cwrs hwn ar ffurf cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UPDI0677AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr