• Rhan Amser
  • Lefel 4

YMCA Tystysgrif mewn Maetheg Uwch Lefel 4

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Cychwyn
15 Chwefror 2027
Hyd
17 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Lefel
4
Ffioedd
£145.00 Gall gostyngiadau fod ar gael
£95.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£50.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Ydych chi’n barod i symud eich gwybodaeth maetheg i’r lefel nesaf? Mae YMCA Tystysgrif mewn Maetheg Gymhwysol ar gyfer Iechyd, Lles, Rheoli Pwysau a Pherfformiad Chwaraeon Lefel 4 wedi’i dylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes ffitrwydd sy’n dymuno cael effaith go iawn. Mae’r cymhwyster uwch hwn yn cyfuno gwyddoniaeth â chymhwyso ymarferol gan eich helpu chi i gefnogi eich cleientiaid o ran cyflawni eu nodau iechyd a pherfformiad.

... Os ydych chi’n angerddol am iechyd, ffitrwydd a maeth a hoffech chi ddyfnhau eich arbenigedd.

... Os ydych chi’n dymuno symud eich gyrfa yn ei blaen fel hyfforddwr personol, hyfforddwr neu arbenigwr lles. Neu, hyd yn oed os ydych chi’n dymuno archwilio rhywbeth newydd.

... Pe bai’n well gennych chi astudio hyblyg, ymgysylltiol sy’n cyfuno theori â chymhwyso ymarferol.

 

 

Byddwch chi’n archwilio egwyddorion maetheg o’r radd flaenaf ar gyfer iechyd, rheoli pwysau a pherfformiad chwaraeon. Gallwch ddisgwyl dysgu rhyngweithiol, astudiaethau achos o’r byd go iawn a phrosiectau ymarferol sy’n dod â theori’n fyw. Y dull asesu yw aseiniadau ysgrifenedig a thasgau cymhwysol gan roi’r hyder i chi gyflwyno cyngor maetheg sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r addysgu yn cyfuno adnoddau ar-lein â chymorth tiwtor felly gallwch chi astudio ar eich cyflymder eich hun wrth gadw mewn cysylltiad.

Dylai dysgwyr allu cyfathrebu ag unigolion a grwpiau yn effeithiol.

Mae gofyn i ddysgwyr fynychu gwersi ddydd Llun rhwng 09:00am a 4:30pm ar y dyddiadau canlynol: 15 Chwefror, 8 Mawrth, 12 Ebrill, 3 Mai, 24 Mai, 21 Mehefin, a 28 Mehefin, a rhaid cwblhau 6 awr arall dros yr wythnosau cydamserol y gellir eu cwblhau ar-lein neu ar y campws

 

Gall y cymhwyster hwn arwain at hyfforddiant pellach ar yr un lefel neu ar lefelau uwch mewn ystod o ddisgyblaethau cysylltiedig. Er enghraifft, YMCA Tystysgrif mewn Rheoli Pwysau ar gyfer Unigolion sy’n Ordew, sydd â Diabetes Mellitus a/neu Syndrom Metabolig Lefel 4.

Nid oes unrhyw ofynion rhagarweiniol ar gyfer y cwrs, fodd bynnag, cynghorir sgiliau rhifedd da ac ymddiddordeb mewn iechyd a lles.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i gefnogi'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant yn bresennol neu sy'n awyddus i fireinio eu gwybodaeth a'u sgiliau proffesiynol ymhellach. Mae'r ddarpariaeth yn cyfuno sesiynau ymarferol a gynhelir ar y campws gyda dysg gymysg hyblyg i'ch galluogi chi i ddatblygu eich arbenigedd ochr yn ochr â'r gwaith ac ymrwymiadau eraill.

Bydd gofyniad i chi fynychu’r campws ar ddydd Llun 9.00am tan 4.30pm ar y dyddiadau canlynol: 15fed Chwefror, 8fed Mawrth, 12fed Ebrill, 3ydd Mai, 24ain Mai, 14eg Mehefin ac 21ain Mehefin ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb, sesiynau ymarferol a gweithdai datblygu sgiliau.

Ceir 7.5 awr arall o ddysgu trefnedig bob dydd Llun sy'n weddill, ynghyd ag awr ychwanegol bob dydd Mercher rhwng 09:00 a 10:00. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno drwy ddull cymysg hyblyg a all gynnwys addysgu ar-lein byw dros ystod o dechnolegau cyfathrebu, sesiynau gweithdy, gweithgareddau diwydiant-seiliedig, sesiynau datblygu portffolio a chefnogaeth ar y campws ble bo angen.

Chwaraeon a Ffitrwydd

Campws Brynbuga

Côd y Cwrs
UPCE3771AA
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Hyd
17 wythnosau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:30

Ffioedd: £145.00

£95.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£50.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Gall gostyngiadau fod ar gael

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Cyrsiau addysg uwch
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent - Glynebwy
Amser
2yp - 5yp
Ymgeisiwch nawr