Yn gryno
Gan ddefnyddio'r cyfrifiaduron perfformiad uchel a'r dechnoleg rith-wirionedd ddiweddaraf, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i chi ennill sgiliau a phrofiad perthnasol, gan eich helpu i gadw i fyny â'r diwydiant hwn sy'n prysur newid.
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn chwarae gemau
... Ydych yn greadigol ac yn gweithio'n galed
... Hoffech symud ymlaen i addysg uwch yn y maes hwn
The computer games industry is a rapidly expanding area, which offers many opportunities. This qualification enables you to focus on the creative, artistic and technical aspects of digital games production. You’ll learn by undertaking all stages of the game production process, such as developing concept art, 2D and 3D animation, 3D modelling of game environments, and developing scripts within a games engine. You’ll also learn code for web and app-based games.
On completion of the course, you’ll have a strong portfolio of playable games to present to universities or employers.
You’ll be assessed through coursework (submitted throughout the year). Qualifications achieved will be:
Blwyddyn 1
- Diploma Lefel 3 mewn Dylunio a Datblygu Gemau Digidol
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Blwyddyn 2
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Dylunio a Datblygu Gemau Digidol
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Dylech hefyd allu defnyddio eich gwybodaeth, sgiliau a barn i gychwyn a chwblhau tasgau a gweithdrefnau lled-gymhleth (o fewn terfynau). Mae hyn yn cynnwys gallu mynd i'r afael â phroblemau gyda lefel o annibyniaeth. Rydych angen bod yn ymwybodol o safbwyntiau a dulliau gwahanol o fewn eich maes astudio neu waith. Bydd disgwyl i chi ymrwymo pum diwrnod yr wythnos o astudio, sy'n cynnwys addysgu'r elfen wybodaeth o'r cymwysterau yn y coleg, a diwrnodau/blociau lleoliad gwaith ar gyfer yr elfen gymhwystra o'r cymwysterau.
Prifysgol: Mae'r cymhwyster hwn yn darparu pwyntiau tariff UCAS ac yn cefnogi eich dilyniant i addysg uwch mewn pwnc sy'n ymwneud â dylunio gemau, megis y Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau yn Coleg Gwent. Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau yn Coleg Gwent.
Cyflogaeth: Wedi cwblhau'r cymwysterau hyn, gallech symud ymlaen i swyddi amrywiol, yn dibynnu ar eich llwybr dewisol. Mae opsiynau gyrfa yn cynnwys dylunydd gemau, modelwr 3D, animeiddiwr 2D/3D, peiriannydd dev-ops, rhaglennydd gemau, arlunydd gemau, dylunydd lefel neu arlunydd effeithiau gweledol.
Bydd cwblhau Diploma 90 Credyd Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn. Wedi hynny, mae llwybrau dilyniant yn cynnwys:
- Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau
- Addysg uwch mewn ystod o ddisgyblaethau
- Cyflogaeth yn y diwydiant gemau
- Cyfleoedd gyrfa posibl yn y cyfryngau: Modelwr 3D, arlunydd gwead, artist cysyniad, artist arweiniol, artist rigio, animeiddiwr, artist goleuo a rendro, ysgrifennydd copi naratif, rheolwr cynnyrch, rheolwr/cynhyrchydd prosiect (gemau), profwr QA, artist technegol, cynhyrchydd cynorthwyol, peiriannydd sain, cyfarwyddwr creadigol, peiriannydd 'dev-ops', cynhyrchydd allanol, dylunydd gemau, datblygwr gemau, rhaglennydd gemau, artist gemau, rhaglennydd arweiniol, dylunydd lefelau, golygydd lefelau, animeiddiwr 3D / 2D, artist goleuo ac amgylchedd, peiriannydd sain, artist effeithiau gweledol
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Celf/Pwnc Creadigol/TGCh a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.