Yn gryno
Mae’r cwrs yma yn gyfuniad o ddysgu yn y dosbarth a phrofiad gwaith yn y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol.
...woffech gael gyrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol
...woffech symud ymlaen i gwrs uwch
...woffech wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn y maes
Pynciau cysylltiedig ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Cyflwynir y cwrs hwn trwy waith grŵp/trafodaethau dosbarth, dysgu yn yr ystafell ddosbarth a phrofiad gwaith, sy’n rhan orfodol o’r cwrs.
Byddwch yn cael eich asesu trwy arholiadau ac asesiadau di-arholiad NEA a byddwch yn cyflawni:
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
Er mwyn cael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Celf, Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Yn ogystal, dylai myfyrwyr feddu ar o leiaf gradd D mewn Bioleg neu Wyddoniaeth neu Radd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 priodol gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg/Saesneg.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y diwydiant gofal. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.
Cwblhau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 yn llwyddiannus: Bydd Egwyddorion a Chyd-destun yn eich galluogi chi i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau rhaglen lawn y cwrs. Wedyn gallwch fynd ymlaen i Addysg Uwch neu gyflogaeth yn y sectorau galwedigaethol statudol, gwirfoddol a phreifat mewn gwaith gofal, gwaith cymunedol, gwasanaeth cyhoeddus, llesiant addysg neu waith cymorth.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Yn ogystal, dylai myfyrwyr feddu ar o leiaf gradd D mewn Bioleg neu Wyddoniaeth; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg
Rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS Manwl boddhaol cyn dechrau'r cwrs (ar eu cost eu hunain).
Rhaid i geisiadau DBS gael eu cynnal yn Coleg Gwent.