• Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Cerddoriaeth (llwybr Technoleg) Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
3

Yn gryno

Cwrs ymarferol yw hwn sy’n datblygu eich sgiliau ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth neu’r celfyddydau perfformiadol.

... Oes gennych gariad at gerddoriaeth a thechnoleg cerdd
... Ydych eisiau gwella eich sgiliau cerddorol presennol
... Ydych eisiau cynyddu eich cyfleoedd am waith yn y maes hwn

Mae hwn yn gwrs ymarferol lle byddwch yn astudio pynciau megis:

  • Gweithio mewn stiwdio recordio gan ddefnyddio Pro Tools / Logic Pro X
  • Trefnu a chyfansoddi gan ddefnyddio Logic Pro X
  • Goleuo a sain fyw
  • Technoleg cerddoriaeth mewn perfformiadau, gan gynnwys Ableton Live a sgiliau DJ
  • Technegau cynhyrchu cerddoriaeth a sgiliau cymysgu
  • Y diwydiant cerddoriaeth

Mae'n well os ydych yn chwarae offeryn neu â gwybodaeth dda am hanfodion cynhyrchu cerddoriaeth. Bydd angen ichi ddangos hynny yn eich cyfweliad/clyweliad.

Darperir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Sesiynau a gweithdai ymarferol
  • Gweithgareddau ystafell ddosbarth
  • Gwaith grwp, fel dosbarth cyfan neu mewn grwpiau arbenigol
  • Astudio annibynnol
  • Tiwtorialau personol

Bydd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn rhedeg y stiwdio fel busnes drwy gydol y flwyddyn, gan ennill profiad o waith realistig yn y diwydiant a gweithio ar wahanol brosiectau Cyfryngau/Dylunio Gemau/Celfyddydau Perfformio. Creu deunydd cerddoriaeth yn Logic Pro X a datblygu sgiliau DJ / Ableton live ar gyfer sioe fyw ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae myfyrwyr yr ail flwyddyn yn cymryd cyfrifoldeb am osod a rhedeg system sain lawn a system oleuo ar gyfer gweithdai wythnosol yn y theatr. Ceir hefyd 6 noson gerddoriaeth sydd ar agor i'r cyhoedd. Myfyrwyr yr ail flwyddyn fydd yn cynnal y rhain hefyd. Bydd myfyrwyr hefyd yn creu a rhyddhau eu cerddoriaeth eu hunain, gan ei chyhoeddi drwy wefan wedi ei chreu gan y myfyrwyr yn unigol.

Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus, yn bennaf drwy aseiniadau ymarferol; gyda gwaith ysgrifenedig i ategu'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu fel myfyriwr cerddoriaeth. Byddwch yn cyflawni:

Bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 gyda Gradd Teilyngdod a TGAU yn cynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.

Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.

Bydd cwblhau diploma 90-credyd Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig llawn. O’r fan honno, mae llwybrau cynnydd yn cynnwys:

Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol.

Fel rhan o’r gofynion mynediad bydd disgwyl i chi fynychu sesiwn brofi lle byddwch yn cymryd rhan mewn clyweliad.

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFBE0007AB
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy