Yn gryno
Bydd y cwrs yma yn eich cyflwyno i fyd cerddoriaeth a chynhyrchu digwyddiadau.
... Oes gennych ddiddordeb brwd a’r gallu i symud ymlaen yn y sector cerddorol
... Ydych yn hyderus wrth berfformio
... Oes gennych gariad at gerddoriaeth
Mae astudio yn cynnwys perfformio, technoleg recordio, technoleg sain a deall cerddoriaeth. Mae gan y cwrs yma sylfaen ymarferol gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau mewn amrywiaeth o bynciau cerddorol. Bydd gennych hefyd fynediad i stiwdio recordio ddigidol.
Byddwch yn cwblhau gwaith prosiect trwy amrywiaeth o berfformiadau, gwaith ysgrifenedig, blogiau, vlogs a chyfryngau rhyngweithiol.
Byddwch yn astudio 6 uned:
Uned 1: Archwilio Cerddoriaeth
Uned 2: Datblygiad Proffesiynol
Uned 5: Cynhyrchu Cerddoriaeth
Uned 6: Peirianneg Sain
Uned 7: Hunan-hyrwyddo yn y Diwydiant Cerddoriaeth
Uned 8: Prosiect Cerdd Mawr
Cyflenwir y cwrs trwy gyfuniad o:
-
Gwaith grwp
-
Dysgu yn y dosbarth
-
Cefnogaeth tiwtorialau
Byddwch yn trefnu, rhedeg a pherfformio fel rhan o dri digwyddiad cerddorol o bwys trwy gydol y flwyddyn. Bydd eich sgiliau fel cerddor ac fel aelod o dîm yn cael eu datblygu a’u herio.
Bydd gennych fynediad i theatr o’r radd flaenaf a chyfleusterau sain a goleuo a ddefnyddir i berfformio nosweithiau cerddorol. Bydd gennych hefyd fynediad i’n cyfresi Mac gyda Logic X ar gyfer recordio.
Byddwch yn cael eich asesu yn rheolaidd trwy arholiadau allanol ac asesiad mewnol, theori ac ymarfer, a byddwch yn cyflawni:
-
Cerddoriaeth BTEC Lefel 2 mewn
-
Gweithgareddau Sgiliau
-
Mathemateg a Saesneg
-
Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Er mwyn cofrestru, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 yn y maes galwedigaethol perthnasol, gan gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Bydd disgwyl i chi chwarae offeryn, neu ganu, er mwyn cymryd rhan mewn wythnosau perfformio.
Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo. Bydd angen i chi fod â diddordeb mewn celfyddydau perfformiadol a datblygiad cerddoriaeth fodern.
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cerddoriaethneu Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Technoleg Cerdd..
Byddai astudiaeth bellach yn eich galluogi i ystyried y gyrfaoedd canlynol:
Rheolwr digwyddiad, Arbenigwr PPC, Cynorthwyydd Darlledu Radio, Cynhyrchydd Radio, Rheolwr Llwyfan Theatr, Cyfansoddwr, Cyfryngau a Chyfathrebu (Diwydiannau Cerdd), Theatr Gerddorol, Ysgrifennu Caneuon, Peirianneg Sain, Technoleg Sain, Rheoli Llwyfan, Canwr Cefndir, Blogiwr, Asiant Archebu, DJ, Rheolwr Digwyddiad, Technegydd Offerynnau, Athro Cerddoriaeth, Therapydd Cerddoriaeth, Cyfarwyddwr Cerdd, Cerddorfa/Cerddor Sesiwn, Peiriannydd Recordio, Canwr, Rheolwr Taith, Cynhyrchydd Cerddoriaeth, Newyddiadurwr Cerddoriaeth, Hyrwyddwr Cyngerdd, Rheolwr A&R.
- O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
- Neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Mae clyweliad yn ofynnol cyn dechrau’r cwrs.