En

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Gwasanaethau Cyhoeddus

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf pedwar TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn cael profiad galwedigaethol mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrau drwy gyflwyniadau, ymweliadau, gweithdai, mentora a phrofiad gwaith.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Rydych yn dymuno dilyn gyrfa mewn gwasanaethau mewn lifrau
...Rydych eisiau cyfuniad o ddysgu rhagweithiol, ymarferol a theori
...Rydych yn breuddwydio am weithio i’r gwasanaeth tân, yr heddlu, y fyddin neu’r llynges.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs yn cynnwys astudio sgiliau gwasanaeth cyhoeddus, cynllunio gyrfa a gwella iechyd a ffitrwydd er mwyn cael mynediad i'r gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel cymorth cyntaf, gweithgareddau awyr agored, academïau pêl-droed, pêl-rwyd neu rygbi.

Nid oes arholiad ysgrifenedig terfynol gan y byddwch yn cyflawni eich cymhwyster trwy asesiad parhaus. Bydd hyn yn cynnwys cyflawni aseiniadau, gwaith prosiect ac astudiaethau achos lle rydych chi'n casglu tystiolaeth o'ch cymhwysedd. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill cymwysterau mewn:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ymuno â'r cwrs, bydd angen o leiaf bedwar TGAU Gradd D neu uwch arnoch i gynnwys naill ai Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol i gynnwys naill ai TGAU Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg iaith gyntaf.

Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â dangos parch at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu'n barhaus ac mae disgwyliad y byddwch yn parhau â'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 Gwasanaethau Cyhoeddus neu gyflogaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai neu'r diwydiant awyr agored.

Gwybodaeth Ychwanegol

Disgwylir i chi brynu cit awyr agored a chwaraeon hyd at werth £95, ynghyd â  40 ar gyfer Cofrestru D o E.

Ar gampws Crosskeys mae'r costau fel a ganlyn:

£ 80 am git Ysgol

£ 45 ar gyfer gweithgareddau awyr agored

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ?

CFBD0006AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr