Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn rhoi ystod o gyfleoedd dilyniant i chi, gan gynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o'n cyrsiau lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth.
...Rydych yn ansicr beth rydych eisiau ei wneud
...Rydych eisiau cael sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy
...Rydych eisiau cael blas ar fywyd coleg
Mae ein cyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol wedi'u cynllunio i'ch cyflwyno i'r maes astudio sydd o ddiddordeb i chi a'ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.
Byddwch yn cael y cyfle i roi cynnig ar fwy nag un maes galwedigaethol a chael blas ar fywyd coleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy ac yn cyflawni tasgau sy'n canolbwyntio ar arddangos yr hyn y gallwch ei wneud a'r hyn rydych wedi ei ddysgu.
Mae’r unedau craidd yr un fath ar gyfer pob cwrs Astudio Galwedigaethol, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn y maes galwedigaethol yr ydych wedi’i ddewis. Os byddwch angen newid i gwrs gwahanol, pe bai angen gallwch drosglwyddo’r unedau yr ydych wedi’u hastudio ar y cwrs hwn i’r cwrs nesaf.
Mae'r unedau craidd y byddwch yn eu dilyn yn cynnwys:
- Bod yn drefnus
- Creu cynllun datblygu
- Gweithio gydag eraill
- Ymchwilio i bwnc
Yna, byddwch yn cwblhau unedau o Wasanaethau Cyhoeddus a Chwaraeon, a all gynnwys o bosib:
- Cyfrannu i'ch Cymuned
- Cynllunio ac arwain taith
- Ymateb i ddigwyddiad
- Cymryd rhan mewn profion ffitrwydd
- Chwarae chwaraeon
- Cynorthwyo mewn gweithgaredd chwaraeon
- Cael pobl i symud
- Cadw’n heini ac yn iach
Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol ac, ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn:
- Diploma BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol yn angenrheidiol.
Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, yn weithgar ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd yn y meysydd galwedigaethol
Bydd disgwyl i chi ymarfer eich sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig o fewn y coleg, er mwyn cynyddu eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn ofyniad gorfodol yn y cwrs hwn.
Gallwch barhau gyda’ch astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis, gallwch symud ymlaen i ddilyn prentisiaeth neu swydd yn eich maes o ddewis.
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol yn angenrheidiol.