En

VTCT Gwobr mewn Triniaethau Pilio Croen Lefel 5

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
5

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£265.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
20 Tachwedd 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
17:00

Hyd

Hyd
2 wythnos

Yn gryno

Mae'r Dyfarniad VTCT (ITEC) Lefel 5 mewn Triniaethau Plicio Croen yn gymhwyster uwch a anelir at ymarferwyr cymwys ar lefel 4 sydd yn 18 oed neu'n hŷn gyda'r nod o ychwanegu'r therapi hwn at eu repertoire o driniaethau i'w cynnig. Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig uwch drwy gynnig technegau nodwyddo croen.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

  • y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Plicio Croen lefel 4.
  • y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.

Cynnwys y cwrs

Mae plicio cemegol, neu blicio croen, yn harneisio pŵer asidau naturiol a chynhwysion gweithredol sydd wedi'u profi'n glinigol i ddiblisgo'r croen, annog cynhyrchu colagen a thyfiant/trosiad celloedd croen i gael croen mwy disglair sy'n ymddangos yn iau. Fel cymysgedd o asidau ac ensymau, mae plicio croen yn diblisgo eich croen ac yn cychwyn trosiad celloedd; mae hyn yn golygu tynnu celloedd croen marw oddi ar yr haen uchaf ac annog tyfiant celloedd, gan ddadlennu’r croen mwy newydd a llyfnach o dan. Mae plicio hefyd yn annog creu colagen ac elastin i helpu lleihau llinellau a chrychau mân.

Yn y cwrs uwch hwn byddwch chi yn dyfnhau eich dealltwriaeth o'r wahanol fathau o blicio croen a'u defnyddiau, ochr yn ochr â'r sgiliau i gario allan plicio arwynebol i'r epidermis canolig yn Fitzpatrick 1-6. Yn ychwanegol, byddwch chi'n datblygu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i ddarparu cyngor ac ôl-ofal yn ogystal ag adnabod cymhlethdodau posib neu adweithiau croes, i sicrhau fod y cleient yn cael holl fuddion y driniaeth a chael y canlyniadau gorau posib.

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Ystyriaethau diogelwch
  • Protocolau a chanllawiau
  • Dadansoddi cynhyrchion
  • Ymgynghoriad, cynllunio a pharatoi
  • Cymhwyso triniaethau plicio croen arwynebol

Cynhelir asesiad drwy aseiniad, arholiad ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill dyfarniad VTCT Lefel 5 mewn Plicio Croen. 

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:

  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Amledd Radio
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau

Gofynion Mynediad

Bydd rhaid meddu ar Ddyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen a bod yn 18 oed neu'n hŷn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyn i chi wisgo gwisg clinig ac esgidiau addas.

Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.

Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu darparu 4 - 6 cleient fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.

Manteision Masnachol a Busnes

Gwerthir triniaethau plicio croen yn aml am £60-100 y driniaeth, fodd bynnag, mae hyn ar ddiwedd is yr ystod prisio; mae'r rhain yn gweithio'n dda fel pecyn mewn cyfuniad â thriniaethau eraill neu wedi'u gwerthu â chynhyrchion gofal yn y cartref i wneud yr elw mwyaf posib. Gall triniaethau yn y DU costau rhwng £250 - £500

Ble alla i astudio VTCT Gwobr mewn Triniaethau Pilio Croen Lefel 5?

CPAW0630AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 20 Tachwedd 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr