En

BTEC Tystysgrif mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gofrestru, rydych angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn pwnc gwyddoniaeth a Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf.

Yn gryno

Dyma'r cwrs i chi os ydych eisiau astudio gwyddoniaeth gyfochr â phynciau Safon Uwch. Addysgir y cwrs hwn fel rhan o raglen astudiaeth Safon Uwch, sy’n cyd-fynd ag amrywiaeth o bynciau Safon Uwch eraill megis bioleg, mathemateg a TG.

Ymdrinnir ag unedau cemeg, bioleg a ffiseg ac unedau eraill fydd yn cyffwrdd ar sgiliau ymarferol, yn ogystal ag iechyd a diogelwch mewn amgylchedd labordy, gyda digon o gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych eisiau cwrs ymarferol, sy'n gysylltiedig â gwaith

... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth

... Rydych yn ysu am yrfa mewn maes gwyddonol

... Rydych eisiau gweithio o fewn y GIG neu feysydd iechyd neu wyddonol perthnasol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Blwyddyn 1:

  • Uned 1: Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth I (asesiadau allanol, arholiadau tua dechrau mis Mehefin fel arfer).
  • Uned 2: Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol (asesiadau mewnol).

Blwyddyn 2:

  • Uned 3: Sgiliau Ymchwilio Gwyddonol (asesiadau allanol, arholiadau ym mis Ebrill/Mai fel arfer).
  • Uned 4: Technegau Labordy a'u Defnydd (asesiadau mewnol).

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, rydych angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn pwnc wyddoniaeth a Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Ddiploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunan.

Beth sy'n digwydd nesaf?

O gwblhau'r ail flwyddyn yn llwyddiannus, mae'n bosib y gallech symud ymlaen i wneud HND neu gwrs gradd gwyddoniaeth neu wyddorau biofeddygol. Mae myfyrwyr yn aml yn mynd ymlaen i brifysgolion lleol a chenedlaethol i astudio ar lefel uwch.

Mae galw uchel am gyfleoedd gyrfa yn gweithio mewn labordai gwyddoniaeth a gweithgynhyrchu.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Tystysgrif mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 3?

PFAS0182A1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr