En

CBAC Drama ac Astudiaethau'r Theatr UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae Drama ac Astudiaethau'r Theatr ar gyfer myfyrwyr sy'n mwynhau darllen a gwylio dramâu, yn ogystal â chymryd rhan ynddynt, boed hynny'n perfformio, cyfarwyddo neu ddylunio setiau a gwisgoedd.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych yn frwdfrydig am y theatr

...ydych eisiau rhaglen astudio ymarferol a damcaniaethol

...ydych yn greadigol a gyda diddordeb mewn dilyn Llwybr y Celfyddydau Creadigol, y Llwybr Dylunio a'r Cyfryngau, y Llwybr Saesneg ac Ysgrifennu.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y rhyddid i fyfyrwyr ddewis cynnwys a ffurf eu cyflwyniadau ymarferol. Byddwch yn astudio cyfanswm o 4 uned:

UG Uned 1: Gweithdy Theatr

Asesiad heb arholiad: asesiad mewnol sy'n cael ei safoni’n allanol, 24% o'r cymhwyster. Cewch eich asesu ar naill ai actio neu ddylunio a chymryd rhan wrth greu, datblygu neu berfformio darn o theatr.

Rhaid i chi gynhyrchu:

  • Sylweddiad o'r perfformiad neu ddyluniad
  • Cofnod creadigol
  • Gwerthusiad

UG Uned 2: Arholiad Ysgrifenedig Testun mewn Theatr: 1 awr 30 munud

16% o'r cymhwyster. Llyfr agored: Cyfres o gwestiynau sy'n seiliedig ar A View from the Bridge gan Arthur Miller.

Safon Uwch (yr uchod yn ogystal â 2 uned arall)

A2 Uned 3: Testun ar Waith

Asesiad heb arholiad, sy'n cael ei asesu'n allanol gan arholwr gwadd, 36% o'r cymhwyster. Byddwch yn creu, datblygu a pherfformio fel naill ai actor neu ddylunydd:

  • Darn wedi'i ddyfeisio gan ddefnyddio'r technegau a dulliau gweithio naill ai ymarferydd theatr dylanwadol neu gwmni theatr cydnabyddedig
  • Detholiad o'r testun mewn arddull gwahanol a ddewisir gennych chi

Byddwch yn cyflwyno'ch perfformiad yn fyw i arholwr gwadd. I'r rheiny sy'n dewis dylunio, byddwch yn rhoi cyflwyniad 5-10 munud, nad yw'n cael ei asesu, o'ch dyluniad i'r arholwr. Rhaid i chi gynhyrchu adroddiad proses a gwerthuso cyn pen wythnos o gwblhau'r gwaith ymarferol.

 

A2 Uned 4: Testun mewn Perfformiad - Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud

24% o'r cymhwyster. Llyfr agored: Dau gwestiwn yn seiliedig ar ddau destun gwahanol: A Day in the Death of Joe Egg gan Peter Nichols neu The Radicalisation of Bradley Manning gan Tim Price a Sweeney Todd gan Stephen Sondheim. Byddwch yn barod i fynd ar sawl ymweliad â'r theatr trwy gydol y cwrs.

Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

  • Drama ac Astudiaethau'r Theatr Lefel UG
  • Drama ac Astudiaethau'r Theatr Safon Uwch

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU arnoch. Gradd C neu uwch, i gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf

Mae gradd B mewn Saesneg yn ddymunol i astudio Drama UG. Gellir ystyried cyflawniadau pwnc amgen os nad oes gennych radd “B”. Siaradwch ag un o'n cynghorwyr.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gall myfyrwyr fynd ymlaen i Addysg Uwch neu yrfa yn y Celfyddydau Perfformio.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi gyfrannu at gostau tripiau ac ymweliadau a bydd angen i chi brynu testunau argymelledig.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Drama ac Astudiaethau'r Theatr UG Lefel 3?

CFAS0176A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr