En

CBAC Sbaeneg UG Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a Gradd B mewn Sbaeneg.

Yn gryno

Ydych chi'n mwynhau dysgu a siarad Sbaeneg?

Yn naturiol mae ein cwrs Sbaeneg Safon Uwch yn adeiladu ar eich sgiliau llafar Sbaeneg, gwrando, darllen ac ysgrifennu yr enillasoch ar lefel TGAU, ac yn eu datblygu fel eich bod chi'n ennill gwybodaeth dda o'r iaith a’r diwylliant Sbaenaidd.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych yn mwynhau dysgu a siarad ieithoedd tramor modern
... Rydych eisiau datblygu eich sgiliau Sbaeneg
... Rydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch i astudio Sbaeneg
... Hoffech yrfa gydag ieithoedd tramor.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod eich cwrs Safon Uwch Sbaeneg, byddwch yn darllen deunyddiau dilys a gymerwyd o destunau a'r rhyngrwyd ac yn gwrando ar glipiau o siaradwyr brodorol i ddatblygu eich sgiliau.

Mae pwyslais pwysig hefyd ar waith llafar a bydd gofyn i chi fynychu dosbarthiadau sgwrsio gyda Chynorthwy-ydd Sbaenaidd.

Lefel UG:

Bydd yr holl waith iaith ar gyfer UG yn seiliedig ar y themâu canlynol yn ogystal ag astudio'r ffilm ‘Volver’:

  • Thema 1: Bod yn unigolyn ifanc mewn cymdeithas Sbaeneg
  • Thema 2: Deall y byd Sbaeneg

Lefel U:

Byddwch yn archwilio'r themâu canlynol ar lefel UG:

  • Thema 3: Amrywiaeth a gwahaniaeth
  • Thema 4: Y ddwy Sbaen: 1936 ymlaen

Bydd myfyrwyr UG hefyd yn astudio llythrennedd ac yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol.

Cewch eich asesu drwy:

  • U2 Uned 1 - Arholiad llafar (12-15 munud), 2 dasg sy'n seiliedig ar symbyliad
  • U2 Uned 2 - Gwrando, darllen ac ysgrifennu (2 awr 30 munud)
  • Lefel Uwch (60% o'r cymhwyster)
  • U2 Uned 3 - Arholiad llafar (12 munud) prosiect ymchwil annibynnol gyda chyflwyniad a thrafodaeth
  • U2 Uned 4 - Gwrando, darllen a chyfieithu (1 awr 45 munud)
  • U2 Uned 5 - Ymateb beirniadol a dadansoddol ar bapur (llyfr caeëdig) (1 awr 30 munud)

Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, a Gradd B mewn Sbaeneg.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl ichi gwblhau eich Safon Uwch mewn Sbaeneg, byddwch yn medru gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, neu gallwch ddilyn astudiaethau pellach yn y brifysgol ar draws ystod o gyrsiau addysg uwch mewn Sbaeneg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.

Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i gynnig cwricwlwm amrywiol a chyfoethog i'w ddysgwyr Lefel A ac AS ac mae'n awyddus i sicrhau bod dysgwyr ar draws Gwent yn gallu cyrchu pynciau sy'n hanesyddol yn recriwtio niferoedd bach. Er mwyn sicrhau argaeledd,rydym yn cynnig Sbaeneg a Ffrangeg ar ein Campws Crosskeys a chynigir Cymraeg ar ein campysau Crosskeys a Parth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd Cerddoriaeth a Mathemateg Bellach yn cael eu cynnig ar bob un o'n campysau. Os yw eich dewis o bynciau yn golygu bod angen teithio rhwng campysau, cysylltwch â'n hadran dderbyn i gael mwy o wybodaeth.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Sbaeneg UG Lefel 3?

CFAS0154A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr