En

CBAC Y Gyfraith UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cipolwg eang ond craff i fyd y gyfraith ac astudiaethau cyfreithiol.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch yn y maes hwn

...hoffech yrfa yn y gyfraith

...ydych eisiau dilyn llwybr y Gyfraith, llwybr dyniaethau neu lwybr Busnes.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Y Gyfraith Lefel UG

Mae'r unedau UG yn ymdrin ag astudio systemau Cyfreithiol Cymru a Lloegr a natur y gyfraith, gan ganolbwyntio ar strwythur systemau cyfreithiol Cymru a Lloegr, gan gynnwys eu perthynas â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r modiwlau hefyd yn cynnwys astudio cyfraith camwedd. Mae’r gyfraith camwedd yn gofyn i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o atebolrwydd am esgeulustod a arweiniodd at bobl yn cael eu hanafu. Bydd angen cymhwyso elfennau o’r gyfraith esgeulustod at senarios damcaniaethol.

Bydd myfyrwyr yn dysgu i ystyried ffynonellau cyfreithiol sylfaenol ac eilaidd yn systemau cyfreithiol Cymru a Lloegr a sut mae barnwyr yn defnyddio'r deddfau hynny wrth wneud penderfyniadau. Byddant yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r system cyfiawnder troseddol a'r system cyfiawnder sifil, gan gynnwys personél cyfreithiol perthnasol a chyllid cyfreithiol. Byddant yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o atebolrwydd deiliaid.

Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatrysiadau, gan gynnwys iawndal, lliniaru colled a gwaharddebau.

Y Gyfraith Safon Uwch

Gall y rheiny sy'n llwyddo yn y Gyfraith UG fynd ymlaen i astudio’r Gyfraith ar Lefel A2. Mae'r unedau A2 yn ymdrin ag astudio dau faes arall o'r gyfraith, o blith Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Contract a Chyfraith Droseddol. Trwy gydol y cwrs, gallwch fesur eich cynnydd trwy waith yn y dosbarth, gwaith cartref ac arholiadau ffug. Mae asesiadau yn cynnwys traethodau a chwestiynau problem neu astudiaethau achos.

Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

  • Y Gyfraith Lefel UG
  • Y Gyfraith Safon Uwch

Ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, mae Cyfraith Droseddol a Chyfraith Contract yn cael eu hastudio ar lefel Safon Uwch. Bydd myfyrwyr y gyfraith yn cael cyfle i dreulio diwrnod yn Llys y Goron, cymryd rhan mewn ffug achosion, cymryd rhan mewn ysgolion haf yn y Gyfraith a chymryd rhan hefyd mewn dosbarthiadau meistr y Gyfraith gyda gweithwyr proffesiynol y Gyfraith.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd A* -C gan gynnwys isafswm o radd C mewn Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Rhaid cwblhau'r Gyfraith UG yn llwyddiannus cyn mynd ymlaen i Lefel A2.

Os ydych yn bwriadu mynd ymlaen i brifysgol, mae dewis o ystod eang o gyrsiau, yn cynnwys graddau yn y gyfraith, busnes, rheoli, cyfrifeg a gwasanaethau cymdeithasol. Fel arall, mae'r gyfraith yn elfen ddefnyddiol o gwrs dyniaethau cyffredinol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Y Gyfraith UG Lefel 3?

EFAS0129A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr