Yn gryno
Mae'r pwnc yn canolbwyntio ar sut mae asiantau economaidd yn gweithio neu'n rhyngweithio a sut mae economi'r wlad yn gweithio. Astudir sut mae dyn yn ennill y budd economaidd mwyaf o'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael.
...ydych eisiau gwell dealltwriaeth o sut mae'r economi yn gweithio
...oes gennych ddiddordeb brwd mewn cyllid
...ydych yn gallu cymell eich hun ac yn gweithio'n galed
Mae economeg yn bwnc sy'n dadansoddi cynhyrchiad, dosbarthiad a'r defnydd o eiddo a gwasanaethau.
Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun. Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:
- Economeg Lefel UG
- Economeg Lefel U
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg (Nid Rhifedd Mathemateg)
Mae parodrwydd i ddilyn y newyddion ac astudio y tu hwnt i'r dosbarth yn hanfodol. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun.
Gall cwblhau Economeg Lefel A yn llwyddiannus arwain at Addysg Uwch, ac mae'r cymhwyster yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw gwrs sy'n gofyn sgiliau dadansoddi a dealltwriaeth o'r gymdeithas. Mae Economeg Lefel UG ac U yn werthfawr i ddilyn gyrfaoedd megis Bancio, Cyfrifeg, Llywodraeth Leol, y Gwasanaeth Sifil a'r byd busnes yn gyffredinol.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg (Nid Rhifedd)
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gostau teithio ymweliadau addysgol.