Amseroedd Cau Dros Y Nadolig

Mae'r coleg bellach ar gau tan ddydd Llun 5 Ionawr. Os ydych wedi gwneud ymholiad am gwrs neu wedi gwneud cais i ymuno â ni ym mis Ionawr, byddwn yn anelu at ymateb o fewn 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i ni ail-agor.

Dymunwn Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.

Lwfans Myfyriwr Anabl

Customer Services staff member smiling

Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn grantiau nad ydynt yn dibynnu ar brawf modd ar gyfer helpu i dalu’r costau ychwanegol hanfodol sydd gennych oherwydd eich anabledd.

Students smiling on campus

Sut i Wneud Cais

Gallwch ymgeisio am Lwfans Myfyriwr Anabl trwy lenwi Ffurflen DSA1 ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Yno hefyd cewch fwy o wybodaeth am y cyllid a’r cymorth ariannol sydd ar gael.

Bydd y hyfforddwyr dilyniant yn cynnig cyngor ac arweiniad ynghylch Cymorth Anabledd i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru.