Cyrsiau addysg uwch a lefel gradd

Archwilio ein cyrsiau keyboard_arrow_down
Vet nursing student at desk

Astudiwch yn lleol ledled De-ddwyrain Cymru

Porwch drwy ein cyrsiau addysg uwch a lefel prifysgol, sy'n cynnwys Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diplomau Cenedlaethol Uwch, graddau sylfaen a chyrsiau atodol. Cyflwynir y cyrsiau lefel prifysgol hyn yn lleol ar draws ein campysau yn Ne-ddwyrain Cymru a dyfernir hwy gan brifysgolion partner cenedlaethol, gan gefnogi dilyniant i radd lawn.

Pam astudio gyda ni?

  • Mae pob un o’n cyrsiau addysg uwch wedi’u hachredu gan brifysgolion llwyddiannus, felly byddwch yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn ogystal ag arbed arian ar deithio, llety a ffioedd dysgu drwy astudio’n lleol.
  • Mae ffioedd ein cyrsiau addysg uwch yn is na’r rhan fwyaf o brifysgolion, felly gallwch astudio o gwmpas eich ymrwymiadau bywyd a gwaith.
  • Mae ein dosbarthiadau’n llai ac yn fwy agos atoch na dosbarthiadau prifysgol fel y gallwch gael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch.
  • Gallech fod yn gymwys ar gyfer amrywiaeth o gymorth ariannol a chymorthdaliadau fel dysgwr addysg uwch llawn amser neu ran amser, yn cynnwys grant gwerth £6,885 y flwyddyn!
Three students sat around a laptop

Ymgeisiwch nawr

Mae dros 30 o gyrsiau lefel prifysgol ar gael felly gwnewch gais i lwyddo fel graddedig!

Cymerwch olwg ar ein cyrsiau isod.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad, efallai y byddwch am ystyried cwrs Mynediad i Addysg Uwch.

Hidlyddion

Sort by

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your fee range:

Choose your start date: