Cyrsiau Sylfaen
Dechrau newydd ar gyfer pobl ifanc sy’n dychwelyd i fyd addysg
Mae cyrsiau Sylfaen yn Coleg Gwent yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed sydd efallai’n dychwelyd i fyd addysg, y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, neu nad ydynt wedi cael cyfle hyd yma i ddod o hyd i’r amgylchedd dysgu cywir.
Gan fod yn berffaith ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn meddu ar gymwysterau blaenorol, mae’r rhaglen yn helpu i chwalu rhwystrau i ddysgu, i fagu hyder ac i gymryd camau y gellir ymdopi â nhw tuag at astudio pellach neu gyfleoedd yn y dyfodol. Ymgeisiwch nawr!
Pam dewis cwrs Sylfaen yn Coleg Gwent?
- Amgylchedd dysgu cefnogol a chynhwysol i fyfyrwyr y mae angen dechrau newydd arnynt
- Unedau hawdd eu trin wedi’u dylunio i fagu hyder a sgiliau gam wrth gam
- Hyfforddwyr ymroddedig a chymorth addysgu a bugeiliol cryf
- Datblygu sgiliau rhyngbersonol ac ymddygiadau sy’n cefnogi cyflogaeth yn y dyfodol
- Llwybrau dilyniant clir tuag at gyrsiau Lefel 1 ac addysg bellach
Yr hyn y byddwch chi’n ei archwilio
Mae cyrsiau Sylfaen yn cyfuno sesiynau rhagflas ar gyrsiau galwedigaethol, sesiynau Sgiliau Hanfodol a sesiynau cyfoethogi i helpu dysgwyr i ddod o hyd i’r hyn sy’n gywir iddyn nhw ac i gynnau’r angerdd am ddysgu.
Mae’r sesiynau rhagflas hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr roi cynnig ar feysydd newydd, darganfod cryfderau ac archwilio llwybrau galwedigaethol cyn gwneud penderfyniadau o ran eu cam nesaf.
Opsiynau astudio
Gall dysgwyr archwilio meysydd pwnc megis:
- Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir
- Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
- Busnes a Chyfrifeg
- Arlwyo a Lletygarwch
- Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
- Adeiladu
- Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Gwyddoniaeth
- Chwaraeon a Ffitrwydd
- Dysgu ac Addysg
Llwybrau dilyniant
Mae cyrsiau Sylfaen wedi’u dymunio i roi’r momentwm angenrheidiol i ddysgwyr symud ymlaen.
Ar ôl llwyddo i gwblhau’r cwrs, gall dysgwyr symud ymlaen i:
• Gyrsiau galwedigaethol Lefel 1 yn Coleg Gwent
• Addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth
Caiff dysgwyr eu cefnogi drwy gydol y cwrs i ddewis y llwybr dilyniant gorau sy’n cyd-fynd â’u diddordebau a’u nodau.